Roedd Wrecsam a Hartlepool yn gyfartal ddi-sgôr ar y Cae Ras yn y Gynghrair Genedlaethol neithiwr (nos Fawrth, Chwefror 23).

Mae’r ymwelwyr yn aros yn y trydydd safle ar ôl iddyn nhw gael y gorau o’r meddiant am rannau helaeth o’r gêm.

Dechreuon nhw’n gryf gyda Jamie Sterry yn gorfodi Christian Dibble i wneud arbediad cyn i Mark Shelton daro’r postyn ag ergyd isel.

Cafodd Gary Liddle ddau gyfle ac fe darodd Ryan Johnson ergyd dros y trawst.

Cafodd Luke Armstrong y cyfle gorau yn gynnar yn yr ail hanner, gan daro’r bêl heibio i’r postyn.

Roedden nhw’n credu y dylen nhw fod wedi cael cic o’r smotyn ar ôl 76 munud gyda thacl ar Rhys Oates y tu allan i’r cwrt cosbi.