Mae Jose Mourinho, rheolwr tîm pêl-droed Spurs, yn mynnu nad oes gan y Cymro Gareth Bale ddim byd i’w brofi, ac y bydd ei “rinweddau arbennig” yn helpu’r clwb cyn diwedd y tymor.
Cafodd y blaenwr ddechrau siomedig yng ngogledd Llundain ar ôl dychwelyd yno ar fenthyg o Real Madrid, gydag anafiadau’n llesteirio’i ddatblygiad ar y cae.
Ac roedd hi’n ymddangos bod gwrthdaro rhwng y chwaraewr a’i reolwr yn ddiweddar pan bostiodd Bale lun ar Instagram yn awgrymu ei fod e wedi ymarfer yn dda cyn dweud wrth Mourinho nad oedd e’n ddigon iach i chwarae yng Nghwpan FA Lloegr.
Serch hynny, perfformiodd e’n dda yn yr Uwch Gynghrair yn erbyn West Ham, gan greu gôl a chael cyfle i sgorio’i hun.
“Does dim rhaid iddo fe fy narbwyllo i o ddim byd,” meddai Jose Mourinho cyn ail gymal y gêm Ewropeaidd yn erbyn Wolfsberger.
“Dwi wedi fy argyhoeddi am bopeth.
“Dydy hi ddim yn fater o fy narbwyllo i, mae’n fater o fod yn barod i chwarae munudau y bydden ni i gyd wrth ein boddau pe bai e’n eu chwarae.
“Proses yw hi.
“Rydych chi’n teimlo hynny mewn gemau dros y blynyddoedd diwethaf. Y broses yw hi.
“Wrth gwrs ein bod ni eisiau iddo fe chwarae bob munud o bob gêm.
“Mae e’n chwaraewr sydd â rhinweddau arbennig, gallech chi weld yn erbyn West Ham yn yr ail 45 munud yr effaith bositif yn safon y gêm.
“Fe gafodd e groesiad, fe greodd e sawl cyfle ac fe darodd e’r trawst.
“Mae’n gwneud yn well o hyd ac o hyd, ond dydy e ddim yn chwarae 90 munud, dydy e ddim yn chwarae pob gêm.
“Rhaid i ni reoli ei ddatblygiad.
“Ond does ganddo fe ddim byd i’m darbwyllo i yn ei gylch.”
Ben Davies yn ategu ei reolwr
Mae Ben Davies, Cymro arall yng ngharfan Spurs, wedi ategu sylwadau ei reolwr.
“Dw i’n credu, i fi, fydda i fyth yn amau Gareth Bale ar ôl chwarae gyda fe a gweld pa mor dda mae e’n gallu bod,” meddai.
“Dw i’n teimlo fel bod rhyw fath o naratif o’i gwmpas e, un wythnos mae e’n wych ac wythnos arall, dyw e ddim.
“Does dim ots fod e heb chwarae llawer o bêl-droed dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Mae’n rhaid iddo fe adeiladu ei ffordd yn ôl i mewn.
“Ro’n i’n meddwl pan chwaraeodd e yn erbyn West Ham dros y penwythnos mai fe, fwy na thebyg, oedd ein chwaraewr gorau ni.
“Felly i fi, does dim amheuaeth fod safon Gareth Bale yno ac y gwelwn ni hynny.”