Mae Mick McCarthy, rheolwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, wedi dweud bod ei dîm yn wynebu “gêm enfawr” oddi cartref yn erbyn Bournemouth nos yfory (nos Fercher, Chwefror 24).
Ers i Mick McCarthy gymryd yr awenau, mae Caerdydd wedi codi i’r seithfed safle yn y Bencampwriaeth, triphwynt y tu ôl i Bournemouth yn y chweched safle, sef y safle gemau ail-gyfle isaf.
Daw hyn yn dilyn pum buddugoliaeth yn olynol i Gaerdydd o dan arweiniad Mick McCarthy, ac mae’r clwb wedi sicrhau 17 pwynt mewn saith gêm ers iddo gymryd drosodd.
“Dw i’n dal i feddwl mai Bournemouth yw un o’r ffefrynnau i orffen yn y chwech uchaf,” meddai.
“Mae’n brawf da i ni.”
Llwyddodd Caerdydd i gyrraedd y gemau ail-gyfle o dan arweiniad Neil Harris y tymor diwethaf, ac mae Mick McCarthy yn dweud ei fod yn gobeithio “efelychu hynny”.
“Mae hwn yn brawf gwahanol yn erbyn carfan gryfach ac un ychydig yn fwy talentog na’r lleill rydym wedi’u chwarae,” meddai.
“Y cyfan y gallwn ei wneud yw dal i bwysleisio bod momentwm wedi dod allan o berfformiadau da.
“Mae pawb yn barod, mae pawb yn gofalu am eu perfformiad eu hunain, yn gofalu am ei gilydd, yn chwarae cystal ag y gallwn ac os ydym yn gwneud hynny, yn amlwg mae gennym y gallu i ennill gemau yn y gynghrair hon.”
Bydd y gic gyntaf am 7 o’r gloch nos yfory.