Mae cystadleuaeth frwd am lefydd yng ngharfan Cymru yn parhau.

Er bod yr hyfforddwyr wedi croesawu’r “pen tost” wedi i chwaraewyr ddychwelyd o anafiadau mae lle i gredu mai Jonathan Davies a George North fydd yn dechrau ynghanol cae i wynebu Lloegr ddydd Sadwrn.

Golyga hyn y bydd North yn ennill ei ganfed cap i Gymru, ac y bydd Jonathan Davies yn chwarae ei gêm gyntaf yn y bencampwriaeth eleni ar ôl anafu ei ffêr tra’n chwarae i’r Scarlets ddechrau’r flwyddyn.

Fe fethodd y ddau chwarewr profiadol gêm ddiwethaf Cymru yn erbyn yr Alban oherwydd anafiadau.

Mae chwech o chwaraewyr yn cystadlu am y ddau le ynghanol cae – Jonathan Davies, George North, Willis Halaholo, Owen Watkin, Nick Tompkins a Johnny Williams.

Yn ôl Jonathan Humphreys, hyfforddwr blaenwyr Cymru, mae cyfarfodydd i ddewis y tîm yn cymryd “llawer mwy o amser” yn ddiweddar.

“Mae’na drafodaethau anodd iawn yn cael eu cynnal ar hyn o bryd am gyfuniadau gwahanol ond mae hynny’n beth cadarnhaol iawn – mae llawer o gystadleuaeth am lefydd,” meddai.

Bydd Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, yn enwi’i dîm i wynebu Lloegr brynhawn yfory, (dydd Iau) Chwefror 25.

Dewisiadau anodd

Mae dewisiadau anodd hefyd i’w gwneud ymhlith y tri cefn wedi i’r asgellwr Josh Adams ddychwelyd ar ôl cael ei wahardd am ddwy gêm am dorri rheolau Covid-19.

Mae hi’n anhebygol y bydd Leigh Halfpenny, sydd yn dal i gael ei asesu ar ôl gadael y cae gyda chyfergyd yn ystod y gêm yn erbyn yr Alban, ar gael i wynebu Lloegr.

Mae disgwyl i Liam Williams felly ddechrau fel cefnwr, tra bydd Josh Adams yn ymuno â Louis Rees-Zammit ar yr asgell.

Oherwydd dyletswyddau cicio gallai hyn hefyd olygu y bydd y maswr Dan Biggar yn cadw ei le yn y tîm.

Daeth y maswr Callum Sheedy a’r mewnwr Kieran Hardy ymlaen yn gynnar yn lle Dan Biggar a Gareth Davies yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn yr Alban.

Gallai Kieran Hardy felly ddechrau ei gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth ar ôl ennill ei gap cyntaf yn ystod gêmau’r Hydref y llynedd.

Er bod y mewnwr Tomos Williams, yn ôl yn hyfforddi ni fydd ar gael i wynebu Lloegr ar ôl anafu yn erbyn Iwerddon.

Mae disgwyl i Wayne Pivac wneud un newid ymhlith y blaenwyr gyda Josh Navidi yn dychwelyd i’r tîm cyntaf – fe fethodd y blaenasgellwr y gêm yn erbyn yr Alban oherwydd anaf i’w wddf.

Tîm tebygol

Dyma’r tîm mae disgwyl i Wayne Pivac ei enwi i wynebu Lloegr yn ôl adroddiadau yn y wasg heddiw (dydd Mercher 24 Chwefror).

15. Liam Williams, 14. Louis Rees-Zammit, 13. George North, 12. Jonathan Davies, 11. Josh Adams, 10. Dan Biggar, 9. Kieran Hardy

1. Wyn Jones, 2. Ken Owens, 3. Tomas Francis, 4. Alun Wyn Jones (C), 5. Adam Beard, 6. Josh Navidi, 7. Justin Tipuric, 8. Taulupe Faletau

‘Her enfawr’

Wrth edrych ymlaen at wynebu Lloegr yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn mae Jonathan Humphreys yn cydnabod fod Cymru’n wynebu “her enfawr”.

“Mae Lloegr yn dîm o’r radd flaenaf, ychydig fisoedd sydd ers iddyn nhw ennill y Chwe Gwlad a Chwpan Cenhedloedd yr Hydref,” meddai.

“Mae’n gêm brawf enfawr, rydym yn disgwyl her enfawr a bydd Lloegr ar eu gorau.”

Ar ôl curo Iwerddon a’r Alban gallai Cymru ennill y Goron Driphlyg ddydd Sadwrn.

“Dydyn ni ddim yn siarad amdano [Goron Driphlyg],” ychwanegodd Jonathan Humphreys.

“Rydym i gyd yn ymwybodol bod y tlws yn y fantol ond does dim angen i ni siarad amdano.

“Rydyn ni’n siarad am sut rydyn ni’n mynd i chwarae, sut rydyn ni’n mynd i ddechrau a sut rydyn ni’n mynd i fynd ati i geisio ennill y gêm.”

Cymru v Lloegr ar S4C brynhawn dydd Sadwrn gyda’r gic gyntaf am 4.45.

“Mae’r garfan yn eitha’ iach ar y foment”

Stephen Jones yn croesawu’r “pen tost” wedi i chwaraewyr ddychwelyd o anafiadau

Cardiau coch diweddar ddim yn syndod i hyfforddwr blaenwyr Cymru

Lleu Bleddyn

“Ond mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr nad ni sy’n derbyn rhai,” meddai Jonathan Humphreys