Mae Prifysgol Lerpwl yn y cynnig y cyfle i fyfyrwyr astudio am radd Meistr yn y Beatles.
Diben y cwrs MA, ‘The Beatles: Music Industry and Heritage’ yw galluogi myfyrwyr i archwilio’u diddordeb mewn cerddoriaeth a’r diwydiannau creadigol, amgueddfeydd ac orielau, y celfyddydau, twristiaeth a hamdden.
Fel rhan o’r cwrs, bydd gan fyfyrwyr y cyfle i ymweld â safleoedd yn y ddinas ac yng Nglannau Mersi oedd o bwys i’r band byd-enwog, yn ogystal â magu cysylltiadau yn y diwydiannau twristiaeth a threftadaeth.
Bydd myfyrwyr hefyd yn ystyried sut y byddai modd ailadrodd gwaddol y Beatles wrth ystyried bandiau a diwylliant dinasoedd eraill.
Dywed Dr Holly Tessler, sy’n arwain y cwrs ac sy’n arbenigo yn hanes y Beatles, ei bod hi wrth ei bodd o gael cyflwyno’r cymhwyster.
“Yr hyn sy’n gwneud yr MA yma yn unigryw yw ei ffocws ar y Beatles mewn ffordd sy’n edrych tua’r dyfodol, gan ystyried dylanwad eu gwaddol ar feysydd cerddoriaeth a’r diwydiannau creadigol, diwylliant poblogaidd, treftadaeth, diwylliant a thwristiaeth yr unfed ganrif ar hugain,” meddai.
“Mae’r MA yma’n ymwneud gymaint â’r astudiaeth ehangach o sectorau treftadaeth, twristiaeth a diwylliant Lerpwl a Phrydain ag ydyw â rôl y Beatles ynddyn nhw.”
Croesawu’r cwrs
Un sy’n croesawu’r cwrs yw Dr Mike Jones o Grŵp Gwaddol y Beatles, sy’n ceisio sefydlu gwerth economaidd twristiaeth y Beatles i economi Lerpwl.
Dywed y bydd yr MA yn archwilio “perthynas ddofn, arwyddocaol a hirhoedlog” y band a’r ddinas.
“Dylid ystyried Lerpwl nid yn unig fel man geni’r Beatles, ond lleoliad eu crud hefyd,” meddai.
“Yr hyn y gwnaeth y Beatles fynd ag e i’r byd, yn rhannol, oedd diwylliant unigryw Lerpwl.”