Mae un o artistiaid enwocaf Ceredigion yn galw ar artistiaid Aberystwyth a’r fro i “lenwi eu ffenestri efo celf” tra bod yr orielau ynghau. 

Penderfynodd Mary Lloyd Jones greu “oriel ffenestr” yn ei thŷ ar Goedlan Iorwerth yn y dre ar ôl darllen am artistiaid enwog eraill fel Anthony Gormley ac Ai Weiwei yn gwneud yr un peth.