Mae pobol yng ngogledd Cymru a Lloegr wedi cefnu ar y Blaid Lafur am fod ASau’r blaid honno wedi “cymryd eu pleidleiswyr yn ganiataol”.

Dyna farn Simon Baynes, yr Aelod Seneddol Ceidwadol a gipiodd De Clwyd oddi ar Lafur yn etholiad cyffredinol 2019.

Mi drodd sawl sedd goch yng ngogledd Cymru yn las yn yr etholiad hwnnw, gan gynnwys Wrecsam, Dyffryn Clwyd, De Clwyd, a Delyn.

Ac mae yna drafodaeth fyw o hyd ynghylch beth yn union a ysgogodd y ffenomen.