Bu ‘It’s A Sin’ yn un o ddramâu mwya’ poblogaidd Channel 4 erioed, gyda thair miliwn a hanner yn gwylio’r bennod gyntaf.
Fe gafodd sawl golygfa ei ffilmio yma yng Nghymru ac mae amryw o’r cast yn Gymry, gan gynnwys y Gymraes Gymraeg Andria Doherty o Drebannws…
Bu Andria Doherty o Drebannws yng Nghwm Tawe yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C ers tro, a hithau wedi actio cymeriadau fel mam ‘Aled Jenkins’, yr athro Cymraeg, yn Gwaith Cartref, ac wedi portreadu bydwraig yn Pobol y Cwm. Ond cafodd y cyn-nyrs gryn sylw ar lefel Brydeinig am actio cymeriad ‘Eileen Morris-Jones’ yn It’s A Sin ar Channel 4.
Mae’r gyfres bum pennod yn adrodd hanes criw o ffrindiau yn Llundain yr 1980au sy’n byw yng nghysgod afiechyd newydd AIDS. Cafodd ei hysgrifennu gan Russell T Davies, yr awdur enwog o Abertawe, a’i ffilmio ym Manceinion, Lerpwl, Bangor a Llandrillo yn Rhos. Ymhlith sêr y gyfres mae Keeley Hawes a Stephen Fry.
Er i Andria ymddangos ar ddechrau It’s A Sin, roedd yn rhaid aros tan y drydedd bennod i gyfarfod ag ‘Eileen’ a dod i’w hadnabod hi’n iawn, wrth i ni ddysgu mwy am ei mab ‘Colin’, sy’n cael ei bortreadu gan Gymro Cymraeg arall, Callum Scott Howells o’r Rhondda.
Mae’r berthynas hon yn un o nifer o rai arwyddocaol rhwng mamau a’u meibion yn It’s A Sin. Ar ôl gadael ei fam a theithio o dde Cymru i weithio yn Savile Row yn Llundain, mae’r ‘Colin’ swil yn rhannu llety’r ‘Pink Palace’ gyda ‘Ritchie’ (Olly Alexander, prif leisydd y band Years & Years), ‘Roscoe’ (Omari Douglas), ‘Ash’ (Nathaniel Curtis) a ‘Jill’ (Lydia West), sy’n rhoi gofal arbennig i’r bechgyn gan ddysgu mwy am HIV ac AIDS a dod yn ymgyrchydd er mwyn helpu ei ffrindiau a phobol eraill. Ar ddechrau’r gyfres, mae AIDS yn y cefndir ac yn yr Unol Daleithiau, ond buan y daw’n fwy blaenllaw a phersonol.
“Roeddwn i’n gyfarwydd [â’r pwnc], achos yr oeddwn i’n arfer bod yn nyrs glinigol, ac roeddwn i’n gyfarwydd â’r AIDS crisis yn yr wythdegau,” meddai Andria Doherty wrth egluro sut y bu’n ymchwilio i bwnc dwys a sensitif.
“Siaradais i â fy ngŵr oedd yn feddyg ar y pryd. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn help – dim ond bod y wybodaeth yn gywir, wrth gwrs. Es i ar wefan glinigol ac roedd hwnna’n rhoi cyflwyniad cywir am HIV ac AIDS, ac fe wnes i edrych ar waith y Terrence Higgins Trust [sydd wedi gweld cynnydd yn nifer y bobol sy’n cael eu profi am AIDS yn sgil darlledu’r gyfres] i weld beth maen nhw’n gwneud ac fel mae pethau wedi symud ymlaen gyda HIV nawr.
“Wnaeth ffrind i fi farw o AIDS, felly ro’n i wedi cael profiad personol o rywun yn marw o AIDS gyda ffrind oedd wedi colli bywyd.”
Aeth Andria ati hefyd i ddysgu mwy am y cyfnod a’r bobol er mwyn gwneud ei chymeriad mor realistig â phosib. “Edrychais i ar wisgoedd pobol fel ‘Eileen Morris-Jones’ yn yr wythdegau. A chefais i fy ngwallt wedi’i dywyllu ar gyfer y rhan hefyd, i wneud i fi edrych yn fwy authentic! A fi’n credu wnaeth rhai eraill o’r cast waith ymchwil hefyd. Dyma’r broses mae actorion yn gwneud.”
BBC ac ITV wedi gwrthod y gyfres
Cafodd y gyfres ddadlennol, rymus ond hwyliog – sy’n cynnwys caneuon cyfarwydd a phoblogaidd o’r 1980au – ei gwrthod gan y BBC ac ITV cyn i Channel 4 gytuno i’w darlledu.
Ac mae Russell T Davies wedi cyfadde’n ddiweddar ei fod e wedi dechrau colli ffydd y byddai’n cael ei darlledu o gwbl, a hithau hefyd yn cynnwys golygfa dreisgar o brotest ym Mhrydain yng nghyfnod Thatcher. Ond rhoddodd Channel 4 y golau gwyrdd iddi, a hithau’n cael ei darlledu yn ystod ‘Mis Hanes LGBT’ ac ‘Wythnos HIV’ ac wedi dod yn un o gyfresi mwyaf poblogaidd erioed y sianel o ran gwylwyr. Oedd Andria a’i chyd-actorion yn teimlo pwysau ychwanegol wrth geisio sicrhau ei llwyddiant?
“Fi’n credu bod pob un ohonon ni wedi teimlo’r cyfrifoldeb yma,” meddai.
“Nag o’n i’n teimlo gymaint o bwysau ychwanegol fy hunan, ond ro’n i’n awyddus i wneud yn siŵr bo fi’n dangos sut oedd e i ‘Eileen Morris-Jones’, a chreu’r stori’n iawn. Fyddai hwnna ddim yn bosib i fi heb gefnogaeth Russell T Davies i’r cast a’r criw i gyd, gyda’i gyngor ffantastig i ni. Mae e mor wych ac mae’r cynhyrchiad wedi cael ei wneud mor dda. Mae e siŵr o fod wedi bod yn addysg i bawb sy’n gwylio, fi’n credu.”
Gwersi’r argyfwng AIDS i’r cyfnod covid
Er i’r gyfres gael ei ffilmio yn niwedd 2019 a dechrau 2020, cyn y cyfnodau clo, fe gafodd It’s A Sin ei darlledu wrth i ni barhau i fyw yng nghysgod argyfwng Covid-19. Ac er bod sawl peth yn gyffredin rhwng yr argyfwng AIDS a’r pandemig coronafeirws, mae Andria yn teimlo bod cyd-destun meddygol y ddau gyfnod yn wahanol iawn i’w gilydd.
“Mae tebygrwydd gydag AIDS a covid, ond mae pethau wedi symud ymlaen. Mae llyfrau i gael, mae’r llywodraeth yn llawer mwy cefnogol, ni wedi cael brechlyn ar gyfer covid ond roedd llawer llai o driniaeth ar gael ar gyfer HIV. Mae llawer mwy o ymwybyddiaeth o covid a dyw e ddim yn cael ei guddio fel oedd HIV. Mae’n anodd cymharu’r ddau beth yn hollol, ond mae mwy o ymchwil a PPE, masgiau a menig…”
Ond mae Andria yn credu bod yna wersi yn It’s A Sin sy’n berthnasol i’n cyfnod covid ni.
“Peidiwch â barnu pobol,” meddai. “Byddwch yn garedig a byddwch yn fwy fel ‘Jill’ oedd yn y gyfres. Roedd hi’n rili garedig. A dysgwch, a pheidiwch ag ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol a’r argyfwng AIDS. Mae pethau’n wael tro yma ond mae cyfle i fod yn fwy caredig â’n gilydd.”
Llwybr anarferol Andria i’r sgrin fach
Yn actores er pan oedd hi’n blentyn, cafodd Andria wersi adrodd, actio a chanu gan ddwy o’i hathrawon ysgol a dwy actores Pobol y Cwm – Harriet Lewis (‘Magi Post’) a Marion Fenner (‘Doreen Bevan’).
“Ges i waith ar y teledu yn y 1970au pan o’n i’n fach,” cofia Andria.
“Ond wnes i ddewis peidio dodi cais mewn i’r Coleg Cerdd a Drama [yng Nghaerdydd]. Dyna beth o’n i’n moyn gwneud, ond mae ansicrwydd o gael gwaith fel actor, so hyfforddais i fel nyrs wedyn. Oedd hwnna’n ffantastig!
“Ges i waith fel ychwanegolyn ar y teledu ac es i ar gwrs actio ond yn anffodus, doeddwn i ddim yn gallu cwblhau’r cwrs achos ro’n i wedi darganfod fod pancreatitis a thiwmor gyda fi, ac wedyn ges i ddiagnosis o MS ac Antiphospholipid Syndrome.”
Cyflwr sy’n ymosod ar y system imiwnedd ac yn cynyddu’r risg o geulo’r gwaed yw Antiphospholipid Syndrome, sydd hefyd yn cael ei alw’n Syndrôm Hughes. Ond doedd hynny ddim am atal Andria rhag dilyn ei breuddwyd.
“Ymunais i â’r Unusual Stage School oedd yn cael ei redeg gan Gelfyddydau Anabledd Cymru, ac fe ges i gyfle i ddangos fy nhalent yn perfformio gyda nhw. Ro’n i’n lwcus i gael fy nysgu gan bobol broffesiynol yn y busnes…
“Ac wedyn ges i fy nghynrychioli gan Shelley Norton Management yng Nghaerdydd. Ac ers i fi fod gyda hi, mae wedi bod yn ffantastig.”
Radio Cymru ar ‘It’s A Sin’
Trwy gymeriadau ‘Eileen’ a ‘Colin’, nid yn unig y mae’r gynulleidfa’n cael ei chyflwyno i acenion Cymreig, ond hefyd i’r iaith Gymraeg – a hynny’n gynnar iawn yn y gyfres wrth i ni gyfarfod â’r ddau yn eu cartref yng Nghymru, lle mae Radio Cymru’n chwarae yn y cefndir.
Mae’n bwysig, yn ôl Andria, i sicrhau bod pobol o’r tu allan i Gymru yn dod yn ymwybodol o’r iaith a “gweld bod yr iaith Gymraeg yn dal i fyw ac yn cael ei siarad”. Ond y peth pwysicaf, efallai, yw sicrhau lle i actorion o Gymru ar lwyfan mawr.
“Mae Russell T Davies yn gefnogol i gael actorion o Gymru’n gweithio ar y teledu yn Saesneg ar gyfresi ym Mhrydain fel It’s A Sin. Mae pethau wedi symud ymlaen. Does dim rhaid newid eich acen, er enghraifft, ar gyfer gweithio tu fas i Gymru ac mae hynny’n gam positif fi’n credu.”
Gydag awduron fel Russell T Davies yn ysgrifennu dramâu ar y prif sianeli, mae lle mwy blaenllaw hefyd i olygfeydd a llefydd yng Nghymru. Mae It’s A Sin yn dilyn cyfresi eraill fel The Pembrokeshire Murders, Un Bore Mercher/Keeping Faith yn Sir Benfro, a Gavin & Stacey yn y Barri.
“A nawr mae It’s A Sin ar y map hefyd!” meddai Andria yn falch.
“Gobeithio bydd e’n annog mwy o gwmnïau mawr a chyfresi i ffilmio yma. Mae’n dda hefyd, fi’n credu, bod y gwylwyr moyn dod i weld lle mae cynyrchiadau’n cael eu ffilmio. Mae’n rhoi hwb wedyn i dwristiaeth yng Nghymru hefyd.”
Mae’n hwb hefyd fod enwogion fel Graham Norton ac Elton John yn rhoi sylw helaeth i’r gyfres ac yn canmol ei chywirdeb. Ac roedd yr holl sylw’n annisgwyl, yn ôl Andria.
“Pan ddarllenais i’r sgript a gweld pa mor bwysig oedd y stori, ro’n i’n gwybod fyddai’r gyfres yn llwyddiannus. Er hynny, doeddwn i ddim yn disgwyl ymateb mor enfawr. Mae wedi bod yn fendigedig a dw i jyst eisiau diolch i bawb am wylio’r rhaglen.”
Mae cryn dipyn o sôn eisoes am yr yrfa actio ddisglair sydd o flaen Olly Alexander. Ond beth nesaf i’r Andria Doherty ddiymhongar a chynnes nôl yng Nghymru?
“Dim ar y foment!” meddai. “Fi’n siarad â’n asiant i am y cam nesa’, felly dw i jyst yn aros nawr i weld beth sy’n dod lan. Mae yna lot o bethau sydd ddim yn cael eu gwneud nawr achos bod y covid yma gyda ni, so jyst gweld beth sy’n digwydd ar ôl hynny nawr.”