Mae Darren Campbell wedi ennill medalau Olympaidd, hyfforddi Jonah Lomu i redeg yn gyflym, ac newydd sgrifennu llyfr am ei fagwraeth gythryblus gyda Gangsters Manceinion…

Fel ffrind ers pymtheg mlynedd, ychydig iawn o bobol sydd mewn lle gwell na’r Cymro Cymraeg, Trystan Bevan, i helpu’r athletwr Olympaidd, Darren Campbell, i lunio’i hunangofiant, Track Record.