Bydd pêl-droed byw o’r JD Cymru Premier yn dychwelyd i S4C o fis nesaf.

Bydd y gêmau yn cael eu darlledu ar y rhaglen Sgorio.

Daw hyn ar ôl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru gadarnhau bod Uwch Gynghrair JD Cymru ac Uwch Gynghrair Orchard Merched Cymru wedi derbyn eu statws elît drachefn.

Yn dilyn cyflwyno cyfyngiadau coronafeirws Lefel 4 yng Nghymru fis Rhagfyr, cafodd y statws elît a gêmau yn y cynghreiriau eu hatal dros dro.

Er bod Cymru yn parhau i fod ar Lefel Rhybudd 4, mae Llywodraeth Cymru a’r Gymdeithas Bêl-droed wedi rhoi caniatâd i’r cynghreiriau baratoi i ddychwelyd i chwarae o dan brotocolau llym Covid-19.

Bydd Sgorio’n darlledu gêm fyw bob penwythnos a phecyn uchafbwyntiau wythnosol ar y teledu, yn ogystal â gwe-ddarllediadau byw rheolaidd o gêmau ganol wythnos.

Y gyntaf o’r rhain fydd gwe-ddarllediad o’r gêm rhwng Y Drenewydd a Phen-y-bont, am 8.00yh ar nos Fawrth (Mawrth 2).

Yna ar ddydd Sadwrn (Mawrth 6), fe fydd Sgorio yn dangos y gêm fyw rhwng Y Seintiau Newydd a’r Bala yn fyw ar S4C, am 4.45yh.

Bydd rhaglenni uchafbwyntiau Sgorio yn ail-ddechrau ar nos Lun (Mawrth 8), gyda Sgorio Stwnsh am 5.30yh, ac yna Mwy o Sgorio, am 10.00yh ar nos Fercher (Mawrth 10).

Gêmau rhagbrofol Cwpan y Byd

Bydd S4C hefyd yn dangos darllediadau byw o bob gêm o ymgyrch rhagbrofol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar.

Mae Cymru’n wynebu Gwlad Belg, Gweriniaeth Tsiec, Belarws ac Estonia yn eu grŵp cymhwyso, gan obeithio cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Mae’r ymgyrch yn dechrau ddydd Mercher (Mawrth 24) gyda gêm oddi cartref yn erbyn Gwlad Belg, sydd ar hyn o bryd yn rhif un yn safleoedd y byd FIFA.

Uwchgynghrair JD Cymru ac Uwchgynghrair Merched Cymru i gael dychwelyd

Caiff cadarnhad ynghylch dyddiadau newydd y gemau y bu’n rhaid eu haildrefnu ei gyhoeddi maes o law.
Cymru v Y Ffindir

S4C i ddarlledu pob gêm o ymgyrch gymhwysol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd

Dylan Ebenezer yn edrych ymlaen at “flwyddyn enfawr i Gymru”