Nid oes “unrhyw dystiolaeth” fod staff carchar Berwyn wedi ymddwyn yn “amhriodol” tuag at garcharor sy’n Gymro Cymraeg.
Dyna mae Nick Leader, Llywodraethwr y carchar yn Wrecsam, wedi ei ddweud yn ymateb i gais am sylw gan golwg360.
Ddechrau’r mis, fe wnaeth Rhodri ab Eilian honni bod carcharorion sy’n siarad Cymraeg yn cael eu gwahanu, a bod y staff yn “hiliol” tuag at Gymry Cymraeg.
Lai na phythefnos yn ddiweddarach, daeth adroddiadau i’r fei fod staff y Berwyn wedi ymosod ar y carcharor.
Pan holodd golwg360 am ymateb i hynny, dywedodd Nick Leader y byddai’n rhaid mynnu caniatâd oddi wrth Rhodri ab Eilian cyn rhoi sylw.
A bellach, mae’r Llywodraethwr wedi anfon llythyr byr at y wefan hon.
‘Nid oes unrhyw dystiolaeth’
Yn y llythyr, mae Nick Leader yn dweud bod y carcharor wedi gwrthod rhoi caniatâd i’r carchar ddatgelu “manylion sydd wedi’u celu”.
Felly does dim modd rhannu llawer yn rhagor o wybodaeth am yr honiadau, meddai.
Er hynny, mae’r Llywodraethwr wedi pwysleisio nad oes tystiolaeth o dramgwyddo.
“Mae adolygiad o’r materion wedi’i gynnal, a galla’ i ddweud â sicrwydd nad oes unrhyw dystiolaeth o ymddygiad amhriodol gan staff tuag ato fo,” meddai wrth y wefan hon.
“Yn anffodus, am fod cydsyniad wedi’i wrthod, dydw i ddim yn medru darparu rhagor o fanylion yn fy ymateb.”
Y sefyllfa hyd yma
Fis Medi y llynedd, daeth y Bwrdd Monitro Annibynnol i’r casgliad bod y carchar yn sathru ar hawliau carcharorion Cymraeg eu hiaith.
Yn sgil cyhoeddi ei adroddiad, dywedodd Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, wrth golwg360 fod “pethau wedi mynd yn eu holau” yn y carchar.
Gwnaeth Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, rannu ei siom hefyd.
Mae llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dweud wrth Golwg eu bod “yn darparu hyfforddiant staff ychwanegol a mentora er mwyn annog siarad Cymraeg yn y carchar.”
Mae mudiad ymgyrchu Undod a rhwydwaith y Prisoner Solidarity Network wedi lansio ymdrech i ddiogelu hawliau carcharorion Cymraeg eu hiaith ym Merwyn.
Cafodd Rhodri ab Eilian, sy’n wreiddiol o Nant Peris, ger Llanberis, ei garcharu ym mis Ebrill 2020 ar ôl bygwth staff meddygfa gyda chyllell a mynnu eu bod yn rhoi ei dabledi iddo.
“Hollol annerbyniol”
Wnaeth Llŷr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, godi pryderon am sefyllfa’r Gymraeg yn y Berwyn yn ystod cyfarfod llawn brynhawn ddoe.
Ac wrth ymateb i hynny, fe wnaeth Mark Drakeford ddatganiad.
“Mae’n hollol annerbyniol i fi os dyw pobol yn y Berwyn ddim yn cael eu trin dan y gyfraith sydd gyda ni yma yng Nghymru,” meddai’r prif weinidog.
“Mae’r awdurdodau yn y Berwyn wedi nodi’r camau y maent yn eu cymryd i sicrhau bod hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg yn cael eu cynnal.
“A nawr, mae angen i ni weld y camau hynny’n cael eu cymryd, nid jest ar bapur, ond ym mywydau’r bobol yn y carchar, fel mae Llŷr Gruffydd wedi’i awgrymu y prynhawn yma.”
Y diweddaraf
Mae Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg, wedi ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn gofyn am sicrwydd fod cynllun iaith Gymraeg y carchar yn cael ei weithredu.
Er bod y Gymraeg yn fater datganoledig, dyw hynny ddim yn wir am gyfiawnder a’r ystâd garchardai ac felly, Llywodraeth San Steffan sydd yn gyfrifol am garchardai Cymru.
Bydd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, yn cyfarfod ag uwch swyddogion y carchar ddechrau mis nesa’.
Fe yw’r unigolyn sy’n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â safonau’r Gymraeg oddi fewn i sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru.