Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys wedi derbyn Marc Ansawdd Tryloywder am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Bob blwyddyn er 2013, mae CoPaCC, arbenigwyr llywodraethu’r heddlu, wedi asesu sut mae swyddfeydd comisiynwyr heddlu a throseddu yn cyflawni eu rhwymedigaethau statudol.

Dros y blynyddoedd, mae proses, meini prawf a thrylwyredd yr asesiad wedi’u mireinio a’u cryfhau er mwyn cefnogi swyddfeydd comisiynwyr heddlu a throseddu i wella safonau tryloywder.

Cafodd swyddfeydd comisiynwyr heddlu a throseddu eu hasesu yn ystod Tachwedd y llynedd a Ionawr eleni gan ymchwilydd CoPaCC yn gweithredu fel ‘siopwr cudd’, gan adolygu gwefannau i bennu sut mae comisiynwyr yn cyflawni eu cyfrifoldebau statudol.

Eleni, cafodd y marc Ansawdd Tryloywder ei ddyfarnu i’r nifer uchaf erioed o swyddfeydd comisiynwyr heddlu a throseddu, 39, gan gynnwys Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys.

“Rwy’n falch iawn I dderbyn y Marc Ansawdd hwn ar ran y swyddfa,” meddai Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys.

“Mae bod yn agored ac yn dryloyw yn elfen allweddol o rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ac yn rhywbeth yr wyf i a’r Swyddfa yn ei gymryd o ddifrif.

“Wrth dderbyn y Marc Ansawdd hwn am y drydedd flwyddyn yn olynol, gallwch fod yn hyderus fy mod yn cyflawni fy nghyfrifoldebau cyhoeddi.

“Mae’r swyddogaeth gydymffurfio yn fy swyddfa yn sicrhau y gweithredir ar unrhyw newidiadau a diweddariadau i ddeddfwriaeth a bod gan aelodau’r cyhoedd lwybr i ofyn am wybodaeth sydd gennym.

“Fel un o’r 39 swyddfa y cyflwynir y wobr iddynt, mae fy swyddfa wedi profi eu bod yn darparu gwybodaeth cyson a chlir sy’n dangos eu hymrwymiad i dryloywder.”