Mae Heddlu De Cymru’n wedi rhoi dirwy i 240 o bobl dros y penwythnos am dorri rheolau Covid-19.
Er bod cyfyngiadau Lefel 4 mewn grym yng Nghymru, ymatebodd swyddogion i lawer o adroddiadau am bartïon tŷ, pobol yn ymgynnull, a phobol yn teithio i ardaloedd arfordirol.
Ymhlith y rhai a gafodd ddirwy roedd:
- 20 o unigolion yn cael dirwy am deithio i Aberogwr i ymarfer corff.
- Pump o bobl a deithiodd o Birmingham i Benarth am ddiwrnod allan.
- Tri dyn a deithiodd o Gasnewydd i Fae Caerdydd i fynd am dro.
- Saith o bobol a gafodd eu gweld yn gwersylla mewn coedwig ym Mro Morgannwg.
- Cwpl a oedd wedi teithio o Bournemouth i weld perthnasau yng Nghaerdydd.
- Saith o bobl a gafodd eu canfod mewn parti tŷ yn Abertawe.
- Ac ar draws Caerdydd, roedd 64 o ddirwyon ar gyfer nifer o bartïon tŷ a chasgliadau dan do
“Y potensial i danseilio’r aberth a arweiniodd at leihau cyfraddau COVID-19 yn ein cymunedau”
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Andy Valentine: “Y penwythnos hwn mae swyddogion Heddlu De Cymru wedi parhau gyda’u hymdrechion i gadw’r cyhoedd yn ddiogel rhag COVID-19.
“Mae gan rai o’r digwyddiadau rydyn ni wedi delio â nhw’r penwythnos hwn y potensial i danseilio’r aberth a arweiniodd at leihau cyfraddau COVID-19 yn ein cymunedau.
“Yn ogystal â diolch i’r rhai sy’n gwneud y peth iawn i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel, rwyf am apelio am gefnogaeth barhaus y cyhoedd wrth ddilyn deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.
“Mae cyflwyno’r brechlyn a’r bwriad i leddfu’r cyfyngiadau yn cynnig gobaith i bawb ond am y tro mae’n rhaid i ni barhau i ddilyn y rheolau sydd ar waith ar hyn o bryd i atal COVID-19 rhag atgyfodi yn ein cymunedau.”