Mae Llafur wedi dweud y dylai Palas Buckingham ymchwilio i unrhyw honiadau o hiliaeth, ar ôl i Ddug a Duges Sussex honni bod aelod o’r teulu brenhinol wedi codi pryderon ynghylch pa mor dywyll y gallai lliw croen eu mab fod cyn iddo gael ei eni.
Yn ystod cyfweliad ag Oprah Winfrey, dywedodd Meghan, pan oedd hi’n feichiog gydag Archie, fod aelod dienw o’r teulu brenhinol wedi codi “pryderon a sgyrsiau am ba mor dywyll y gallai ei groen fod pan gaiff ei eni”.
Dywedodd ysgrifennydd addysg yr wrthblaid yn San Steffan, Kate Green AS, fod honiadau gan yr Americanes, y person hil-gymysg cyntaf i briodi aelod o’r uwch-deulu brenhinol Prydeinig mewn hanes modern, yn “wirioneddol ofidus, yn syfrdanol”.
“Ac os oes honiadau o hiliaeth, byddwn yn disgwyl iddynt gael eu trin gan y palas gyda’r difrifoldeb mwyaf a chydag ymchwiliad llawn,” meddai wrth Sky News.
“Beth?? Pwy sy’n cael y sgwrs honno?”
Yn ystod cyfweliad y cwpl, mae Oprah Winfrey wedi’i syfrdanu wrth ofyn am y sylwadau ar liw croen Archie: “Beth?? Pwy sy’n cael y sgwrs honno?!”
Fe wnaeth Meghan oedi a dweud bod “sawl sgwrs” gyda Harry am liw croen Archie, a “sut olwg fyddai ar hynny”.
Pan ofynnwyd iddi a oedd pryderon y byddai ei phlentyn yn “rhy frown” ac y byddai hynny’n broblem, dywedodd Meghan: “Os mai dyna’r dybiaeth rydych chi’n ei gwneud, mae hynny’n un eithaf diogel.”
Wedi’i gwthio gan Winfrey ar bwy gafodd y sgyrsiau hynny, gwrthododd Meghan ddweud, gan ychwanegu: “Rwy’n credu y byddai hynny’n niweidiol iawn iddyn nhw.”
Gwrthododd Harry roi rhagor o fanylion, gan ychwanegu: “Y sgwrs honno, dydw i byth yn mynd i rannu. Ar y pryd roedd yn lletchwith, roeddwn i mewn sioc braidd.”
Mae Oprah Winfrey bellach wedi datgelu fod Harry wedi dweud wrthi nad ei fam-gu na’i dad-cu ddywedodd hyn.
Dywedodd wrth CBS This Morning: “Ni rannodd yr enw gyda mi ond roedd am wneud yn siŵr fy mod i’n gwybod, a phe bawn i’n cael cyfle i’w rannu, nad ei fam-gu na’i dad-cu oedd yn rhan o’r sgyrsiau hynny.
“Ni ddywedodd wrthyf pwy oedd yn rhan o’r sgyrsiau hynny.”
“Rwy’n siŵr y bydd y palas yn meddwl yn ofalus iawn…”
Pan ofynnwyd i sgrifennydd addysg yr wrthblaid, Kate Green AS, a ddylai’r palas ymateb i’r honiadau, dywedodd wrth Sky News: “Rwy’n siŵr y bydd y palas yn meddwl yn ofalus iawn am hynny a bydd pobl yn meddwl tybed beth fydd yn cael ei ddweud.
“Nid oes byth unrhyw esgus mewn unrhyw amgylchiadau dros hiliaeth ac rwy’n credu ei bod yn bwysig bod camau’n cael eu cymryd i ymchwilio i hyn… maent yn honiadau gwirioneddol frawychus.”
Yn y cyfamser, dywedodd y gweinidog plant, Vicky Ford AS, nad oes lle i hiliaeth yn ein cymdeithas pan ofynnwyd am yr honiadau.
Dywedodd wrth BBC Breakfast nad oedd wedi gweld y cyfweliad, ond ychwanegodd: “Does dim lle i hiliaeth yn ein cymdeithas ac mae angen i ni i gyd weithio gyda’n gilydd i’w atal.”