Mae cyfweliad damniol Dug a Duges Sussex gydag Oprah Winfrey wedi cael ei ddarlledu yn yr Unol Daleithiau dros nos.
Yn y cyfweliad mae Harry a Meghan yn cyhuddo’r teulu brenhinol o beidio eu cefnogi hyd yn oed pan oedd y Dduges wedi ystyried lladd ei hun.
Dywedodd Meghan ei bod wedi erfyn am help ond bod uwch swyddogion wedi dweud wrthi na fyddai hynny’n “edrych yn dda”.
Mae’r cwpl hefyd wedi cyhuddo’r teulu brenhinol o fod yn hiliol gan honni bod trafodaeth wedi bod cyn geni eu mab, Archie, am liw ei groen.
Dywedodd Harri fod ei berthynas gyda’r Tywysog Charles wedi bod dan straen ers eu penderfyniad i gamu nôl o’u dyletswyddau brenhinol a symud i Ganada y llynedd.
Mae’n honni nad oedd ei dad yn ateb ei alwadau ffôn ar ôl iddyn nhw symud i Ganada a’u bod heb gael cymorth ariannol ganddo yn chwarter cyntaf 2020.
Ychwanegodd ei fod wedi cymryd cytundebau gyda Netflix a Spotify er mwyn talu am swyddogion diogelwch.
Nid oedd Harry wedi beirniadu ei frawd, y Tywysog William, ond dywedodd eu bod ar “drywydd gwahanol.”
Fe ddatgelodd y cwpl hefyd eu bod yn disgwyl merch fach yn yr haf.
Fe fydd y cyfweliad yn cael ei ddarlledu ar ITV heno am 9pm.