Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi awgrymu y gallai’r cyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio ddiwedd yr wythnos.

Gallai hyn olygu y bydd y rheol aros gartref yn newid i ganllawiau aros yn lleol.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adolygiad diweddaraf rheolau Covid-19 ddydd Gwener, Mawrth 12.

“Dywedais bythefnos yn ôl yn yr adolygiad diwethaf fy mod yn gobeithio mai dyma fydd tair wythnos olaf y rheol aros gartref,” datgelodd Mark Drakeford wrth Radio Wales.

“Felly, dyna fyddwn ni’n ceisio gwneud dydd Gwener.

“Byddwn yn edrych yn ofalus a fyddai cyfnod o aros yn lleol – mae pobol wedi arfer â hynny, cawsom gyfnod o hynny’r llynedd yng Nghymru – yn gam cyntaf ar y daith.”

Dyma fydd y bedwaredd waith i Lywodraeth Cymru adolygu rheolau Covid-19 yn ffurfiol ers i’r cyfyngiadau cenedlaethol Lefel 4 ddod i rym yng Nghymru ar Ragfyr 20.

Doedd dim newid yn yr adolygiad cyntaf ar Ionawr 8, ond cyhoeddwyd peth newidiadau yn yr ail a’r trydydd adolygiad ar Ionawr 29 a Chwefror 19.

Awgrymodd y Prif Weinidog bryd hynny na fydd llacio sylweddol tan wyliau’r Pasg, sydd ar benwythnos cyntaf mis Ebrill eleni.

‘Cam wrth gam’

“Yng Nghymru, dyna sut rydyn ni’n ceisio mynd i’r afael a’r cyfan, yn ofalus, yn ddiogel, cam wrth gam, ddim yn gwneud gormod o bethau ar unwaith,” ychwanegodd Mark Drakeford.

“Drwy wneud hyn gallwn fonitro effaith y newidiadau, ac yna cynnig mwy o ryddid i bobol ac i’r economi unwaith y byddwn yn hyderus bod hi’n ddiogel gwneud hynny.”

Mae cyfraddau’r feirws yn parhau i ostwng yng Nghymru a bellach i lawr i 46 achos i  bob 100,000.

Ffigurau diweddaraf

Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddoe (Mawrth 7) fod 18 yn rhagor o farwolaethau’n ymwneud â Covid-19 yn y 24 awr ddiwethaf.

Mae’n golygu bod 5,403 o bobol bellach wedi marw ar ôl cael prawf positif am y coronafeirws yng Nghymru.

Mae 152 o achosion newydd hefyd wedi eu cadarnhau gan fynd a’r cyfanswm i 205,038 ers dechrau’r pandemig.

Cyfraddau’r coronafeirws yn gostwng i lai na 50 i bob 100,000 o’r boblogaeth

“Wrth i fwy o bobol gael eu brechu yng Nghymru, efallai ein bod yn gweld gostyngiad cyflymach na’r disgwyl”