Mae Andrew RT Davies yn dweud bod “y Deyrnas Unedig yn gryfach o fod yn rhan o’r Gymanwlad gyda’n Brenhines Elizabeth II yn bennaeth arni”.

Daw sylwadau arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ar drothwy Diwrnod y Gymanwlad yfory (dydd Llun, Mawrth 8).

“Wrth i ddyddiau tywyll y pandemig Covid ymddangos fel pe baen nhw’n dechrau dod i ddiwedd, mae’n briodol ein bod ni’n taflu goleuni ar ein ffrindiau o amgylch y byd sy’n rhan o’r Gymanwlad o Genhedloedd,” meddai.

“Ar adegau o drafferth, ac ar adegau o hapusrwydd, mae’r Gymanwlad – sydd bellach â rhyw 54 o wledydd – wedi bod yn gonglfaen i’r Deyrnas Unedig estyn allan yn fyd-eang, ac yn union fel y mae Cymru’n gryfach o fod yn rhan o’n Deyrnas Unedig, felly mae’r Deyrnas Unedig yn gryfach o fod yn rhan o’r Gymanwlad gyda’n Brenhines Elizabeth II yn bennaeth arni.

“Prin y bu estyn allan yn fyd-eang erioed mor bwysig, yn enwedig gyda’r cytundebau sydd wedi’u llofnodi neu sydd ar y gweill yn nwylo galluog iawn Liz Truss, Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol y Deyrnas Unedig.

“Mae’r rheiny’n cynnwys rhai ag India, Ghana, Singapôr, Seland Newydd, Awstralia…

“Mae’r rhestr yn mynd yn ei blaen a gyda chytundeb masnach ag Awstralia y daw’r potensial i gael mynediad i’r Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth Draws-Iwerydd, a’r farchnad eang mae hynny’n ei chynnwys.

“Felly ar y Diwrnod y Gymanwlad hwn, p’un a ydych chi yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu unrhyw le arall o blith y 53 o genhedloedd y Gymanwlad, gallwn oll fod yn sicr fod ein cydgysylltiadau’n ein gwneud ni’n gryfach gyda’n gilydd.”