Mae’r Ceidwadwyr yr Alban yn dweud y byddan nhw’n bwrw ymlaen â phleidlais hyder yn erbyn John Swinney, dirprwy brif weinidog yr Alban, “ddydd Mawrth neu ddydd Mercher”.

Cafodd y cynnig ei gyflwyno’r wythnos ddiwethaf ar ôl i Lywodraeth yr Alban wrthod trosglwyddo cyngor cyfreithiol yn ymwneud â her gyfreithiol Alex Salmond i’r modd y gwnaeth y Llywodraeth ymdrin â honiadau ynghylch ei ymddygiad rhywiol.

Derbyniodd Alex Salmond fwy na £500,000 yn sgil y digwyddiad.

Yn ôl Douglas Ross, arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, does dim modd i John Swinney aros yn ei swydd ac mae’r bleidlais yn ddibynnol ar sêl bendith swyddfa’r Senedd.

Mae Douglas Ross yn cyhuddo John Swinney o reoli’r modd y cafodd gwybodaeth am yr helynt ei chyhoeddi bob yn dipyn, ac o “amharchu” Senedd yr Alban drwy ddal gwybodaeth yn ôl a ddylai fod wedi’i chyflwyno i ymchwiliad seneddol ac o geisio camarwain y cyhoedd.

“Mae e wedi cael mwy na digon o gyfleoedd i fod yn dryloyw ond mae ei weithredoedd yn mynd yn fwy cudd ac yn fwy anodd i’w hesgusodi wrth i’r wythnosau fynd yn eu blaenau.”