Mae trigolion Abertawe wedi ymateb yn negyddol ar y cyfan i bont newydd ar Heol Ystumllwynarth sy’n cysylltu canolfan dan do newydd sbon gyda llwybr ger y traeth.

Mae disgwyl i arena dan do gwerth £135m gael ei chwblhau yn ddiweddarach eleni ac mae’r bont wedi cael ei gosod yno dros nos.

Mae Pont y Bae Copr yn 160 troedfedd (49m) ac mae’n cysylltu un ochr Heol Ystumllwynarth â’r llall.

Cafodd y ffordd ei chau dros nos er mwyn cwblhau’r gwaith, ac mae disgwyl i’r bont gael ei hagor i gerddwyr a seiclwyr cyn i’r arena newydd gael ei chwblhau cyn diwedd y flwyddyn.

Mae Rob Stewart, arweinydd Cyngor Dinas A Sir Abertawe, yn dweud y bydd y bont yn “symbol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol” o ddatblygiad y ddinas.

Ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol

Ond mae’n ymddangos nad yw trigolion y ddinas yn cytuno.

Tra bod rhai yn gweld tebygrwydd rhwng y bont a tortilla, mae eraill yn gweld bar siocled Crunchie ac eraill yn gweld cramwythen (crumpet).

Ac mae person arall yn gofyn a yw’r bont wedi’i noddi gan gwmni Taco Bell.

Ond mae’r cwmni Global Drone Surveys & Media wedi trydar y lluniau canlynol sy’n dangos y bont o’r awyr a’r effaith mae’r goleuadau’n ei chreu ar draws y ddinas yn y nos.

Arwydd ar Heol Ystumllwynarth, Abertawe

Dymchwel pont cyn dechrau adeiladu arena newydd yn Abertawe

Rhan o gynllun gwerth £135m i drawsnewid rhan o’r ddinas