Mae Nigel Farage wedi camu o’i rôl yn arweinydd plaid Reform UK.

Daw hyn ar ôl 30 mlynedd o ymgyrchu gan y gwleidydd 56 oed, a hynny er mwyn i Brydain gael gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’n dweud y bydd yn parhau i ymgyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Reform UK yw enw newydd Plaid Brexit, plaid oedd wedi brwydro am 275 o seddi yn etholiad cyffredinol 2019 gan ennill 2% o’r bleidlais heb fod wedi cael un aelod seneddol.

Yn dilyn ei benderfyniad, fe fydd yn dod yn llywydd anrhydeddus y blaid, gyda Richard Tice, y cadeirydd, yn dod yn arweinydd.

“Fydda i ddim ynghlwm wrth wleidyddiaeth bellach, ond dw i ddim am fynd i ffwrdd o frwydro brwydrau mawr y dydd,” meddai ar Twitter.

Fe ddywedodd wrth y Sunday Telegraph fod gwleidyddiaeth “wedi mynd â rhan orau fy mywyd fel oedolyn”.