Mae Nazanin Zaghari-Ratcliffe, sydd wedi bod dan glo yn Iran ers 2016, yn cael tynnu ei thag electroneg heddiw (dydd Sul, Mawrth 7), ond bydd yn rhaid iddi ddychwelyd i’r llys yr wythnos nesaf.
Cafodd y ddynes sydd bellach yn 42 oed, ac sydd â phasport Prydeinig ac Iranaidd, ei charcharu bum mlynedd yn ôl yn dilyn honiadau ei bod hi wedi teithio i Iran i geisio symud y llywodraeth o’u swyddi.
Cafodd ei harestio ym maes awyr Tehran yn ystod gwyliau gyda’i merch fach i fynd i weld ei rhieni.
Mae ei gŵr Richard a’u merch fach Gabriella wedi bod yn aros cryn amser am newyddion amdani, a’u gobaith yw y bydd hi’n cael dychwelyd i’w cartref yng ngogledd Llundain yn fuan.
Mae hi wedi bod dan glo yng nghartref ei rhieni yn Tehran ers iddi gael gadael y carchar y llynedd.
Dywed y Swyddfa Dramor eu bod nhw’n cydweithio â’r teulu ac yn parhau i’w cefnogi, ac nad ydyn nhw’n fodlon derbyn y sefyllfa dros y bum mlynedd diwethaf.