Mae Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, yn dweud mai “dechrau, nid diwedd y broses” yw’r argymhelliad i gynnig codiad cyflog o 1% i weithwyr iechyd yn Lloegr, gyda phryderon y gallai gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru gael eu hunain yn yr un sefyllfa gyda chynnig tebyg.

Mae Uno’r Undeb yn rhybuddio Llywodraeth Prydain y byddai codiad cyflog pitw o 1% i staff y Gwasanaeth Iechyd yn arwain at ymadawiadau di-ri, rhestrau aros hirfaith a phrinder arbenigwyr yn y maes.

Daw’r rhybudd diweddaraf wrth i’r dadlau ynghylch argymhelliad y Llywodraeth wrth y corff sy’n adolygu cyflogau’r Gwasanaeth Iechyd rygnu ymlaen.

Mae undeb Unsain yn galw ar y cyhoedd i glapio’n araf nos Iau nesaf (Mawrth 11) i ddangos eu dicter – a hynny’n adlais o’r clapio ddigwyddodd ar gais Llywodraeth Prydain i ddatgan cefnogaeth i’r Gwasanaeth Iechyd yn ystod y cyfnod clo cyntaf y llynedd.

Ond yn ôl Simon Hart, mae’r sefyllfa’n “fwy na mater o gyflog” a “dechrau, nid diwedd y broses” yw’r adolygiad.

“Dw i’n credu bod rhwystredigaeth dyn ynghylch y math yma o straeon yw mai dechrau’r broses, nid y diwedd, yw hyn, yr Adolygiad Cyflogau Annibynnol, a fydd y penderfyniad terfynol ar hyn ddim yn cael ei wneud am sbel eto,” meddai wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC.

“Yr hyn y mae’r Adran Iechyd wedi’i wneud, ac nid yw’n syndod am wn i, yw rhoi ffigwr arni sydd o fewn eu hamlen ariannu yn ei chyfanrwydd.

“Y ffordd dw i eisiau edrych arni, ac mae Andrew [RT] Davies a finnau’n dod at hyn o safbwynt Cymru, yw yn hytrach na’n barnu ni o safbwynt y Gwasanaeth Iechyd ar faint rydyn ni’n talu pobol, na allwch chi fyth ei ymgorffori, 1%, 2%, 3%, ond ar sail faint rydyn ni’n gwerthfawrogi pobol.

“Felly rydyn ni’n edrych nawr ar becyn llawer ehangach sy’n cynnwys llawer mwy na dim ond cyflog.

“Fydd yna fyth ffigwr y bydd pawb yn cytuno arno.

“Rhaid i ni fynd ymhellach na hynny, rhaid i ni siarad am amodau, gorffwys ac adfer, gwyliau, hawliau, y math yna o beth, mae hynny’n rhan o’r pecyn.”

Llacio’r cyfyngiadau?

Yn y cyfamser, mae’r prif weinidog Mark Drakeford yn dweud y gallai Llywodraeth Cymru newid y cyfyngiadau yn dilyn yr adolygiad nesaf, er mwyn sicrhau bod pobol yn “aros yn lleol” yn hytrach nag “aros gartref”.

Wrth siarad â rhaglen Sunday Supplement ar Radio Wales, dywedodd fod angen “cam canol” rhwng aros gartref a gallu teithio unrhyw le yng Nghymru.

Fe fydd yr adolygiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener (Mawrth 12).

“Dywedais i bythefnos yn ôl yn yr adolygiad diwethaf fy mod i’n gobeithio mai dyma fyddai’r tair wythnos olaf o gyfyngiadau aros gartref,” meddai.

“Felly dyna fyddwn ni’n ceisio’i wneud ddydd Gwener yr wythnos hon.

“Byddwn ni’n edrych yn ofalus yr wythnos hon ar a fyddai cam canol o aros yn lleol – mae pobol wedi arfer â hynny, fe gawson ni gyfnod o hynny y llynedd yng Nghymru – yn gam gyntaf ar y daith.”

Mae e wedi ategu ei neges fod rhaid llacio’r cyfyngiadau’n “ofalus, yn bwyllog, gam wrth gam, heb wneud gormod o bethau ar yr un pryd”.

Tra bod Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, eisoes wedi galw am weithredu’n “ofalus” wrth lacio’r cyfyngiadau, mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am “fap ffordd” fel bod modd gadael y cyfyngiadau.