Mae Uno’r Undeb yn rhybuddio Llywodraeth Prydain y byddai codiad cyflog pitw o 1% i staff y Gwasanaeth Iechyd yn arwain at ymadawiadau di-ri, rhestrau aros hirfaith a phrinder arbenigwyr yn y maes.
Daw’r rhybudd diweddaraf wrth i’r dadlau ynghylch argymhelliad y Llywodraeth wrth y corff sy’n adolygu cyflogau’r Gwasanaeth Iechyd rygnu ymlaen.
Mae undeb Unsain yn galw ar y cyhoedd i glapio’n araf nos Iau nesaf (Mawrth 11) i ddangos eu dicter – a hynny’n adlais o’r clapio ddigwyddodd ar gais Llywodraeth Prydain i ddatgan cefnogaeth i’r Gwasanaeth Iechyd yn ystod y cyfnod clo cyntaf y llynedd.
Yn ôl Dr Nikita Kanini, cyfarwyddwr meddygol gofal sylfaenol y Gwasanaeth Iechyd, gallai nyrsys “anhygoel” gael eu colli yn sgil yr helynt.
Mae hi wedi dweud wrth Times Radio y gallen nhw benderfynu gadael eu swyddi “yn rhannol oherwydd pryderon ynghylch cyflogau ond yn rhannol oherwydd blinder” ar ôl blwyddyn anodd yn ceisio mynd i’r afael â’r coronafeirws.
Yn ôl Uno’r Undeb, mae aelodau’n grac ynghylch cynnig “sarhaus” y Llywodraeth, gan y byddai’n gwaethygu sefyllfa recriwtio’r Gwasanaeth Iechyd.
“Ymhen pum mlynedd, bydd y Gwasanaeth Iechyd yn gysgod gwelw o’r gwasanaeth iechyd gwych a frwydrodd yn erbyn Covid yr ydym yn ei adnabod ac yn ei garu os nad yw’r argymhelliad cyflog 1% sarhaus yn cael ei adolygu i fyny’n ddramatig gan weinidogion,” meddai Gail Cartmail, ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol yr undeb.
“Mae staff y Gwasanaeth Iechyd Gwlad wedi blino’n lân ar ôl blwyddyn o ofalu’n ddiflino am gleifion yn ystod y pandemig ac mae nifer bellach yn barod i adael y gwasanaeth iechyd ar ôl degawd o lymder cyflogau sydd wedi gweld pecynnau cyflog nifer yn gostwng o 19% yn nhermau real.”
Mae’n rhybuddio mai’r argymhelliad diweddaraf fydd “y cam olaf” i rai aelodau o staff, gyda 100,000 o swyddi sydd eisoes heb eu llenwi, gan gynnwys 40,000 o swyddi nyrsio, a bod rhestrau aros hir am driniaethau o ganlyniad i Covid-19.
Dywed Uno’r Undeb eu bod nhw’n cydweithio ag undebau eraill er mwyn penderfynu ar y cam nesaf yn yr ymgyrch, sy’n cynnwys y posibilrwydd o weithredu’n ddiwydiannol.