Mae cannoedd o bobol wedi bod yn gorymdeithio i brotestio unwaith eto ar ôl i rapiwr o blaid annibyniaeth i Gatalwnia gael ei arestio’n ddiweddar.
Fe fu ymateb cryf i’r penderfyniad i arestio Pablo Hasel yn sgil ei ganeuon yn beirniadu Llywodraeth Sbaen.
Roedd y protestwyr yn cludo baner fawr yn galw am adael y rapiwr yn rhydd o’r carchar, ac yntau wedi’i garcharu am naw mis am annog brawychiaeth drwy ganmol dwy garfan arfog sydd wedi lladd mwy na 900 o bobol yn Sbaen.
Roedd e hefyd wedi gwrthod talu dirwy am sarhau cyn-frenin Sbaen.
Cafodd ei arestio ar Chwefror 16, ac fe fu protestiadau yng Nghatalwnia fyth ers hynny, a thrafodaeth eang am ryddid barn.
Mae’r llywodraeth glymblaid wedi addo diwygiadau cyfreithiol i ddileu cyfnodau o garchar am droseddau’n ymwneud â rhyddid barn, tra bod un arall o bleidiau’r glymblaid wedi cyhoeddi deiseb yn gofyn am bardwrn i Pabo Hasel.
Mae wyth o bobol wedi’u carcharu am eu rhan mewn protestiadau’n ymwneud ag achos y rapiwr, ac maen nhw’n wynebu cyhuddiadau posib o ladd, ymosod ar swyddogion cyfraith a threfn a ffurfio criw o droseddwyr.