Mae prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Tâf Morgannwg yn dweud y gall ymwelwyr deimlo’n ddiogel wrth ymweld â chleifion yn dilyn tân yno fore heddiw (dydd Sul, Mawrth 7).

Fe ddigwyddodd y tân yn ystod oriau mân y bore, ac roedd wedi’i ddal mewn un ward.

Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad, a chafodd cleifion eu symud i ran arall o’r ysbyty am resymau diogelwch.

“Dylai unrhyw aelod o’r cyhoedd sydd i fod i ymweld â’r ysbyty heddiw, yn unol â’r cyfyngiadau COVID presennol, deimlo’n gwbl sicr fod yr ysbyty’n ddiogel,” meddai Gareth Robinson.

“Rydym wedi cyfathrebu â pherthnasau agosaf yr holl gleifion a gafodd eu heffeithio gan y digwyddiad hwn.

“Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth ein cydweithwyr gwasanaethau brys wrth fynd i’r afael â’r digwyddiad hwn.”