Mae’r actor adnabyddus Laurence Fox wedi cyhoeddi ei fwriad i sefyll yn y ras i olynu Sadiq Khan i fod yn Faer Llundain.

Bydd e’n sefyll gyda’r bwriad o geisio codi’r cyfyngiadau clo fwy na mis yn gynnar.

Mae’n arweinydd plaid Reclaim.

Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar Fai 6.

Cyfnod clo costus

Daw cyhoeddiad Laurence Fox ar ôl iddo fe gael ei ysbrydoli i sefyll ar ôl gwrando ar Gyllideb y Canghellor Rishi Sunak ganol yr wythnos.

Bryd hynny, cyhoeddodd Sunak y byddai Llywodraeth Prydain yn benthyg £407bn sydd, yn ôl Fox, yn cyfateb i £1,600 i bob teulu.

Mae hynny, meddai, yn golygu bod Sunak wedi codi trethi i’w lefel uchaf ers 50 mlynedd.

Mewn datganiad, mae’n dweud ei bod yn bryd “cadw trefn” ar sefyllfa ariannol Prydain, gan alw am lacio’r cyfnod clo ar ôl yr etholiad.

“Bob wythnos sy’n mynd heibio heb lacio’r cyfyngiadau clo, mae’n golygu colli rhagor o swyddi, colli rhagor o fusnesau a mwy fyth o drethi yn y dyfodol,” meddai.

“Gyda bron i bob person oedrannus a bregus wedi cael eu brechlyn, dw i eisiau codi’r cyfnod clo ar unwaith.

“Mae’r Llywodraeth wedi dweud bod brechlynnau’n llwyddo, bod derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau’n gostwng, ond maen nhw’n dal i ddweud wrthym na fyddwn ni’n gallu ailddechrau bywyd cyffredin tan ganol yr haf ar y cynharaf.

“Mae’r ddwy brif blaid yn cystadlu yn y ras ddiflas hon i fod yr olaf i ryddhau’r wlad.

“Mae’r Torïaid a Llafur ill dwy wedi cael hyn yn gwbl anghywir.”

Barn pobol Llundain

Mae pôl ar ran Savanta ComRes yn awgrymu bod mwy na hanner trigolion Llundain eisiau codi’r cyfyngiadau clo erbyn diwedd mis Mai.

Pobol iau yw’r rhai, ar y cyfan, sydd am lacio’r cyfyngiadau.

Cafodd 1,002 o oedolion yn Llundain eu holi rhwng Chwefror 18 a 22.

Mae Sadiq Khan eisoes wedi cyhoeddi ei fwriad i sefyll eto, gan roi blaenoriaeth i swyddi.