Mae’r heddlu’n ymchwilio i lofruddiaeth merch 16 oed yn Nhreorci.

Bu farw Wenjing Xu yn dilyn diwyddiad ddydd Gwener (Mawrth 5).

Mae dyn 31 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o’i llofruddio, tra bod dyn 38 oed hefyd yn y ddalfa.

Mae teulu Wenjing Xu wedi ei disgrifio fel “enaid addfwyn iawn” ac yn “berson tawel iawn”.

Roedd hi’n gweithio yn siop têcawê y teulu, ac roedd hi hefyd yn ddisgybl disglair iawn yn yr ysgol.

Mae’r ddau ddyn sydd wedi’u harestio yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.