Mae arweinydd Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot wedi ymddiswyddo ar ôl i recordiad dod i’r amlwg ohono’n gwneud sylwadau dilornus am Aelod benywaidd o’r Senedd ac awgrymu parodrwydd i gamddefnyddio arian cyhoeddus.
Mae’n ymddangos bod y Cynghorydd Rob Jones wedi gwneud y sylwadau dadleol mewn cyfarfod o’r blaid Lafur ym Mhontardawe yn 2019.
Mae i’w glywed yn cyfeirio at Bethan Sayed, yr Aelod o’r Senedd dros Dde-Orllewin Cymru, fel “the cow that she is …” Mae’n awgrymu’n glir hefyd y byddai’n ffafrio dyrannu arian cyhoeddus ar sail teyrngarwch gwleidyddol cynghorwyr lleol. Mae i’w glywed yn dweud yn blaen y byddai’n llawer mwy parod i ystyried ceisiadau cynghorwyr Llafur ar gyllid i’w wardiau na cheisiadau tebyg gan gynghorwyr Plaid Cymru.
Pan ddaeth y recordiad i sylw arweiniydd Plaid Cymru, Adam Price, ysgrifennodd lythyr at Mark Drakeford yn galw am ymchwiliad i’r mater.
Mewn datganiad, dywedodd y Cynghorydd Rob Jones nad oedd y recordiad, a gafodd ei wneud heb yn wybod iddo, “yn adlewyrchu’r gwerthoedd mae’n eu harddel”, a’i fod wedi gofyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wneud ymchwiliad.
Mae’n honni bod y recordiad wedi cael ei olygu fel y byddai’n adlewyrchu’n ‘ddamniol’ arno, ond mae’n cyfaddef ei fod wedi gwneud sylw dilornus am Aelod o’r Senedd a’i fod wedi ysgrifennu ati i ymddiheuro.
Dywed ei fod wedi camu’n ôl o’i swydd fel arweinydd cyngor tra bydd yr Ombwdsmon yn cyflawni ei ymchwiliad.
Dywed Cyngor Castell-nedd Port Talbot mewn datganiad fod y Cynghorydd Jones wedi cyfeirio’i hun atynt ac y byddant yn cynnal ymchwiliad. Fe fydd y Dirprwy Arweinydd, Edward Latham, yn cymryd ei le fel Arweinydd dros dro.