Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn galw ar y Prif Weinidog Mark Drakeford i ymchwilio i recordiad o sylwadau sy’n cael eu priodoli i aelod blaenllaw o’r Blaid Lafur yng Nghymru.

Mae’r sylwadau hyn yn dangos agweddau gwrth-fenywaidd a sarhaus at un o Aelodau benywaidd Plaid Cymru o’r Senedd, a hefyd yn awgrymu parodrwydd i gamddefnyddio arian cyhoeddus.

Dywed Adam Price fod ei ffynonellau’n awgrymu bod y recordiad yn deillio o gyfarfod o’r Blaid Lafur ym Mhontardawe yn 2019, a’i bod yn ymddangos mai Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Rob Jones, sy’n llefaru.

Yn ôl trawsgrifiad Adam Price o’r sylwadau mewn llythyr at y Prif Weinidog, mae cyfeiriad at Bethan Sayed, Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru fel “the cow that she is …”

Mae’r recordiad yn awgrymu’n glir hefyd y byddai’r llefarydd yn ffafrio dyrannu arian cyhoeddus ar sail teyrngarwch gwleidyddol cynghorwyr lleol. Mae’n dweud yn blaen y byddai’n llawer mwy parod i ystyried ceisiadau cynghorwyr Llafur ar gyllid i’w wardiau na cheisiadau tebyg gan gynghorwyr Plaid Cymru.

‘Anfon neges glir’

“Dw i’n gofyn ichi felly, yn eich rôl fel Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, i gyflawni ymchwiliad cyflym i ddarganfod dilysrwydd y recordiad ac, os caiff ei gadarnhau, bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd i anfon neges glir nad oes lle i sylwadau gwrth-fenywaidd fel hyn ym mywyd cyhoeddus Cymru,” meddai Adam Price yn ei lythyr.

“Yn yr un modd, mae’n hanfodol eich bod yn anfon neges glir y byddai ceisio mantais bleidiol gul trwy gamddefnyddio penderfyniadau gwario cyhoeddus yn yn gamddefnydd cwbl annerbyniol o rym.

“Os caiff ei gadarnhau bod y sawl a wnaeth y sylwadau hyn yn dal swydd allweddol ac yn aelod o’ch plaid, yna dw i’n disgwyl ichi fynnu ei ymddiswyddiad ar unwaith.”

Mewn trydariad, dywedodd Leanne Wood, cyn-arweinydd Plaid Cymru:

“A yw hyn yn dderbyniol gan unrhyw gynghorydd, heb sôn am arweinydd (Llafur) cyngor?

“Dw i’n teimlo dros fy ffrind Bethan Jenkis sydd wedi gorfod dioddef y ‘crap’ hwn dros lawer blwyddyn …”