Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau am asiantaeth annibynnol newydd – Ffyniant Cymru – a fyddai’n gyfrifol am ddatblygu’r economi pe bai’r Blaid yn ffurfio llywodraeth ar ôl yr etholiad ym mis Mai.

Tasgau allweddol yr asiantaeth newydd fyddai “creu a rhannu cyfoeth” ac “adeiladu ein ffyniant cenedlaethol”.

Fe fyddai’n cael ei arwain gan Fwrdd yn cynnwys arbenigwyr mewn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a datgarboneiddio yn ogystal ag arloeswyr o fyd busnes.

Wrth gyhoeddi’r cynlluniau heddiw yng Nghynhadledd Wanwyn y Blaid, sy’n cael ei chynnal dros y we y penwythnos yma, meddai’r Gweinidog Cysgodol dros yr Economi, Helen Mary Jones:

“Bydd Ffyniant Cymru yn asiantaeth datblygu economaidd gyda gwahaniaeth, gyda’r dasg o ddatblygu ein heconomi yn y fath fodd fel bod cyfleoedd yn cael eu creu’n deg ar draws ein cenedl.

“Bydd pwyslais ar fynd i’r afael â phatrymau hanesyddol o wahaniaethu sydd wedi arwain at anghyfiawnder cronig ac anghydraddoldeb yn y ffordd y mae ein heconomi wedi gweithredu.

“Wrth nesu at yr etholiad ym mis Mai, bydd Llafur wedi cael 21 mlynedd lle maen nhw wedi methu â chyflawni’r trawsnewidiad sydd ei angen mor daer ar Gymru. Dim ond llywodraeth Plaid Cymru fydd â’r weledigaeth, yr uchelgais a’r angerdd i adeiladu’r genedl deg, werdd a llewyrchus – cenedl gyfartal – yr ydym i gyd am fyw ynddi.

“Rydym yn glir fel Plaid am ddibenion ein polisi economaidd. Rhaid inni wneud penderfyniadau gwahanol, a rhaid inni wneud hynny nawr.”