Mae Clocsiwr Calan, Bethan Rhiannon, wedi dweud wrth golwg360 ei bod hi’n “lwcus iawn” i fod ar raglen y digrifwr Romesh Ranganathan, Ranganation.
Sioe gomedi yw’r Ranganation sy’n cael ei chyflwyno gan y digrifwr Romesh Ranganathan a’i ddarlledu BBC Two.
Mae Romesh Ranganathan yn ymuno â grŵp o 25 aelod o’r cyhoedd, gan gynnwys ei fam, i drafod digwyddiadau newyddion yr wythnos.
Mae dau o westeion enwog hefyd yn ymddangos ar y rhaglen.
“Rhaglen eithaf ysgafn am yr wythnos sydd wedi bod, stwff yn y newyddion ac ati ydi o,” eglura Bethan Rhiannon i golwg360.
“Rydan ni’n trafod beth bynnag sydd wedi bod yn digwydd, a’i wneud o mewn ffordd ddoniol… mae Romesh yn gofyn cwestiynau i ni.”
‘Folk Hero’
Caiff Bethan Rhiannon ei hadnabod fel ‘Folk Hero’ ar y rhaglen, enw sy’n deillio o’i chefndir gyda cherddoriaeth werin.
“Y nhw sy’n rhoi’r enw i chdi, mae pawb yn cael un, nhw sy’n rhoi o i chi, mae o’n ffordd gyflym i’r gynulleidfa adnabod pawb.
“Dw i’n amlwg yn chwarae efo Calan ac ati felly ges i’r enw ‘Folk Hero’.
“Os oes rhywbeth yn y newyddion wedi bod am gerddoriaeth, mi fyddan nhw’n holi fi.”
“Aeth y peth comedi yn bellach nag oeddwn i’n disgwyl”
Ond sut y daeth Bethan Rhiannon i fod ar y rhaglen yn y lle cyntaf?
“Pan ddechreuodd y cyfnod clo cyntaf roedd teithiau Calan yn cael eu canslo, doedd gena i ddim swydd.
“Felly bues i’n chwarae o gwmpas yn gwneud ychydig o gomedi, a chreu fideos i BBC Sesh.
“O hwnna aeth y peth comedi yn bellach nag oni’n disgwyl. Dwi’m yn comedian. Jyst gneud fideos oeddwn i.
“Roeddwn i yn y tŷ ar ben fy hun dros y Nadolig, ac wedi yfed potel o win.
“Nes i weld rhywbeth ar y cyfryngau cymdeithasol yn sôn am y rhaglen, a dw i wedi caru’r rhaglen ers iddo ddechrau ar y teledu felly pam lai?
“Ond wedyn nes i anghofion yn llwyr am y peth tan ganol mis Ionawr, ac roeddwn i’n lwcus iawn i fod yn un o dri newydd gafodd eu dewis i fynd ar y rhaglen – roedd 20,000 o geisiadau wedi cael eu hanfon mewn!”