Y gân ‘Bach o Hwne’ gan Morgan Elwy Williams yw enillydd Cân i Gymru 2021.

Cafodd y gân ei ddewis trwy bleidlais gyhoeddus fyw gan wylwyr y rhaglen Cân i Gymru 2021 ar S4C neithiwr (5 Mawrth) o lwyfan Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Caerdydd.

Mae Morgan yn 25 oed ac yn wreiddiol o bentref bach Tan y Fron ger Llansannan, ond yn byw yng ngogledd Llundain ers 2019. Ar ôl gadael yr ysgol, mi aeth i Fanceinion i wneud gradd mewn Ffiseg, a bellach mae’n athro Ffiseg rhan amser mewn ysgol uwchradd yn Llundain.

Y llynedd bu’n ffodus o gael yr holl amser yn y cyfnod clo i recordio ei albwm newydd, ac mae’n gobeithio bydd yr albwm allan ym mis Ebrill eleni.

“Mae hyn yn golygu’r byd i mi, a diolch i bawb am gefnogi,” meddai Morgan. “A diolch i’r band hefyd – mae hyn yn anhygoel yn enwedig ar ôl blwyddyn fel llynedd.”

Mae Morgan yn ennill tlws Cân i Gymru 2021 a’r wobr o £5,000.

‘Fel Hyn Mae Byw’ gan Huw Ynyr oedd y gân a gipiodd yr ail a gwobr o £2,000 a ‘Siarad yn fy Nghwsg’ gan Melda Lois Griffith oedd yn drydydd â gwobr o £1,000.

Dywedodd Siôn Llwyd o Avanti Media, sy’n cynhyrchu’r rhaglen ar ran S4C fod cystadleuaeth eiconig Cân i Gymru wedi tynnu sylw unwaith eto at y talent cerddorol sy’n bodoli yng Nghymru.

“Llongyfarchiadau i Morgan ac i bob un o’r perfformwyr a’r cyfansoddwyr sydd wedi cymryd rhan yng Nghân i Gymru eleni – mae wedi bod yn noson anhygoel a hynny mewn blwyddyn anodd. Mae safon yr artistiaid heno yn argoeli’n dda ar gyfer dyfodol Cân i Gymru a dyfodol cerddoriaeth Gymraeg,” meddai.