Bydd un o brif heolydd dinas Abertawe yn cael ei chau y prynhawn yma (dydd Sul, Chwefror 23) er mwyn dymchwel pont ger safle arena newydd.
Bydd Heol Ystumllwynarth ynghau o 2 o’r gloch y prynhawn yma tan bore fory (dydd Llun, Chwefror 24), wrth i’r bont chwe metr, 40 mlwydd oed ger canolfan hamdden LC gael ei dymchwel er mwyn creu lle ar gyfer strwythur dur newydd.
Y bwriad yw creu digon o le i’r miloedd o bobol fydd yn mynd i ddigwyddiadau yn yr arena newydd ar safle hen faes parcio’r ganolfan hamdden.
Mae’n rhan o gynllun gwerth £135m i drawsnewid y rhan honno o’r ddinas yn gartref i barc newydd, bron i 1,000 o lefydd parcio, cartrefi ac unedau busnes.
Mae disgwyl i’r ganolfan newydd agor yn ail hanner 2021.
Dymchwel y bont
Yn ôl y cyngor sir, mae’n hanfodol fod y bont yn cael ei dymchwel gan nad yw’n ateb gofynion y prosiect newydd.
Bydd yn rhaid cau’r brif ffordd i mewn i ganol y ddinas o’r dwyrain er mwyn cwblhau’r gwaith rhwng Ffordd y Dywysoges a Ffordd y Gorllewin.
Bydd traffig yn cael symud ar hyd ffyrdd eraill yng nghanol y ddinas rhwng 2 o’r gloch heddiw a 6 o’r gloch bore fory, a bydd arwyddion yn dangos pa ffyrdd sy’n dal ar agor.
Bydd mynediad i gerbydau brys o hyd, a bydd modd i deithwyr gael mynediad i feysydd parcio yn y ddinas er bod y ffordd ynghau.
Wrth ddymchwel y bont, fe fydd hyd at 25 o adeiladwyr a dau grân ar y safle.
Y bwriad yw codi’r strwythur newydd ar unwaith, er mwyn cryfhau’r cysylltiadau rhwng y ddinas a’r môr.
Mae disgwyl i filoedd o gerddwyr a beicwyr ddefnyddio’r ffordd bob blwyddyn.
Gall pobol groesi yn y mannau priodol unwaith fydd y bont wedi mynd, a bydd goleuadau wrth groesffyrdd er mwyn sicrhau diogelwch cerddwyr.
Mae’r Cyngor yn pwysleisio y bydd gan gerddwyr a theithwyr fynediad i ganol y ddinas drwy gydol y gwaith o godi’r ganolfan newydd.
Mae’r cynllun yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gytundeb Dinesig Bae Abertawe ac un o gronfeydd Llywodraeth Cymru.
Egluro pam fod y ffyrdd ynghau
“Mae disgwyl i’r bont gael ei symud dros nifer o oriau y penwythnos hwn am ddau reswm,” meddai Rob Stewart, arweinydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe.
“Dydyn ni ddim eisiau amharu ar draffig ganol wythnos ac oherwydd fod rhagolygon y tywydd yn darogan y bydd bwlch yn y tywydd stormus yn hwyr ar ddydd Sul, gan alluogi peirianwyr y crân i gwblhau’r gwaith symud.
“Rydym yn diolch i fodurwyr, trigolion a busnesau am eu dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.
“Byddwn ni’n gwneud penderfyniadau terfynol dros y penwythnos yn seiliedig ar y tywydd a byddwn yn diweddaru pobol trwy’r cyfryngau cymdeithasol.”