Mae cyfraddau’r coronafeirws yn parhau i ostwng, fel eu bod bellach yn llai na 50 achos fesul bob 100,000 o’r boblogaeth yng Nghymru.
Mae’r cyfraddau o 48 heddiw (dydd Sadwrn 6 Mawrth) a 51 ddoe yn cymharu â dros 600 o achosion i bob 100,000 ar ddechrau’r cyfnod clo fis Rhagfyr.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wrth gynhadledd i’r Wasg ddydd Gwener bod yr ystadegau diweddaraf yn awgrymu bod Cymru “dros y gwaethaf o ail don y feirws”.
“Mae pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru hefyd wedi cofnodi llai na 100 o achosion fesul 100,000 o bobol,” meddai’r Gweinidog Iechyd.
“Dyma’r gyfradd isaf rydym wedi ei gweld ledled Cymru ers canol mis Medi.
“Mae’r rhif R yn parhau i fod yn is nag un ac mae’r gyfradd sy’n profi’n bositif wedi gostwng i 5.4%.”
Mae nifer y bobol sydd â choronafeirws yn ein hysbytai hefyd yn gostwng.
“Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod nifer y bobol yn yr ysbyty gyda coronafeirws yn parhau i ostwng a ddoe roedd llai na 450 o bobol gyda choronafeirws wedi’i gadarnhau yn yr ysbyty ledled Cymru – y nifer isaf ers Hydref 17,” meddai Vaughan Gething.
“Wrth i fwy o bobol gael eu brechu yng Nghymru, efallai ein bod yn gweld gostyngiad cyflymach na’r disgwyl yn nifer y bobol sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty.
“Byddwn yn cymryd agwedd ofalus a graddol tuag at godi’r cyfyngiadau, gan ddechrau gyda’n blaenoriaeth o gael plant yn ôl i’r ysgol,” meddai.
Cyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon bydd rhagor o blant am ddychwelyd i’r ysgol cyn y Pasg.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ail asesu’r cyfyngiadau ddydd Gwener nesaf, Mawrth 12.
Amrywiolion newydd
“Ceisio atal yr amrywiolion rhag ennill eu lle yn y wlad hon” yw nod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ôl Vaughan Gething.
Hyd yma, mae 24 o achosion o amrywiolyn coronafeirws o Dde Affrica wedi eu cofnodi yng Nghymru.
“Gall amrywiolion newydd ddod i’r amlwg ar unrhyw adeg ac yn unrhyw ran o’r byd, ond maent yn fwy tebygol o ddigwydd os oes lefelau uchel o drosglwyddo cymunedol,” eglurodd Vaughan Gething.
“Dyma pam mae angen i ni gadw cyfraddau heintiau dan reolaeth – ac mor isel â phosib – hyd yn oed wrth i fwy o bobol gael eu brechu.”
Cymru sydd â’r gyfradd frechu orau yn y Deyrnas Unedig, ac mae’r wlad yn agosáu at roi dos cyntaf o’r brechlyn i filiwn o bobol.
Hyd yma mae dros 967,042 o bobol wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn a 154,819 wedi derbyn ail ddos o’r brechlyn.
Ffigurau diweddaraf
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi 7 yn rhagor o farwolaethau’n ymwneud â Covid-19 yn y 24 awr ddiwethaf.
Mae’n golygu bod 5,385 o bobol bellach wedi marw ar ôl cael prawf positif am y coronafeirws yng Nghymru.
Mae 195 o achosion newydd hefyd wedi eu cadarnhau gan fynd a’r cyfanswm i 204,886 ers dechrau’r pandemig.
Mae’r ffigurau hyn yn cymharu â 12 o farwolaethau a 230 o achosion newydd ddoe.