Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, wedi cyhoeddi y bydd disgyblion ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 yn cael dychwelyd i’r ysgol cyn y Pasg.
Gwnaeth hi’r cyhoeddiad mewn fideo ar ei thudalen Twitter.
Y bwriad yw sicrhau y gall rhai plant gael oriau cyswllt â’u hathrawon, gyda ffocws ar gefnogi lles a pharatoi i ddychwelyd yn llawn ar ôl y gwyliau.
Mae disgwyl i ddisgyblion oedran cynradd ddychwelyd o Fawrth 15, ynghyd â disgyblion ym mlynyddoedd 10 a 12, y rhai sy’n sefyll arholiadau a’r rhai sy’n gwneud cymwysterau tebyg mewn colegau.
Mae disgyblion iau mewn ysgolion cynradd wedi dychwelyd ers Chwefror 22.
Bydd y cynlluniau’n cael eu hadolygu fel rhan o’r adolygiadau bob tair wythnos gan Lywodraeth Cymru ar Fawrth 12.
‘Prif flaenoriaeth’
“Mae agor lleoliadau addysg i bob disgybl yn brif flaenoriaeth i ni yn Llywodraeth Cymru, ac rwy’n falch i allu rhannu rhywfaint o newyddion cadarnhaol o ran hynny heddiw,” meddai Kirsty Williams.
“Dyma’r ail wythnos i’n disgyblion ieuengaf fod nôl yn yr ysgol ac rwy wedi gweld fy hunan y gwahaniaeth y mae hyn eisoes yn ei wneud – diolch unwaith eto i bawb sy’n gwneud hyn yn bosibl.
“Rydyn ni eisoes wedi cyhoeddi, o 15 Mawrth – os yw’r cyngor gwyddonol yn dal i ddweud ei bod yn ddiogel inni wneud hynny – y bydd pob plentyn ysgol gynradd sy’n weddill yn dechrau dychwelyd i’r ysgol, ynghyd â’r rhai mewn blynyddoedd arholiad a myfyrwyr sy’n gwneud cymwysterau tebyg mewn colegau a dysgu seiliedig ar waith.
“Rydyn ni hefyd yn cynnig hyblygrwydd i’r rheini ym mlynyddoedd 10 a 12.
“Rwy hefyd wedi rhannu fy mwriad i gael pob dysgwr yn ôl i ysgolion, colegau a lleoliadau hyfforddiant ar ôl gwyliau’r Pasg.
“Heddiw, galla’ i gadarnhau ein bwriad i fynd ymhellach yn gynt, gan roi cyfle i ysgolion groesawu yn ôl eu dysgwyr ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 cyn gwyliau’r Pasg.
“Byddai hynny’n rhoi cyfle i ddysgwyr gwrdd â’u hathrawon i drafod eu lles a gwneud yn siŵr eu bod yn barod i ddychwelyd i’r ysgol yn llawn ar ôl y Pasg.
“Hoffwn i ei gwneud yn hollol glir nad yw hyn golygu y bydd dysgwyr blynyddoedd 7, 8 a 9 yn dychwelyd i’r ysgol yn llawn cyn y Pasg.
“Cyn y Pasg, rydyn ni’n canolbwyntio ar ddysgwyr sy’n ymgymryd â chymwysterau, yn enwedig y rheini ym Mlynyddoedd 11 a 13, a’r rhai sy’n astudio cymwysterau galwedigaethol ymarferol.
“Byddwn ni’n cyhoeddi canllawiau llawn i ysgolion heddiw, a bydd y rheini’n helpu mewn perthynas â’r holl gynllunio angenrheidiol.
“Byddwn ni hefyd yn trefnu mwy o sesiynau rhithwir ar gyfer penaethiaid, gan eich bod wedi rhoi gwybod eu bod yn ddefnyddiol. A byddaf yn rhannu’r manylion ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Hoffwn i ddiolch i bob un ohonoch chi unwaith eto am ddilyn y rheolau, lleihau trosglwyddo’r feirws, ac am ganiatáu mwy o hyblygrwydd i ni gael dysgwyr yn ôl i’n hysgolion a’n colegau.
“Gyda’n gilydd byddwn ni’n cadw Cymru’n ddiogel, a gyda’n gilydd byddwn ni’n sicrhau bod dysgwyr Cymru’n dal ati i ddysgu.”
Diweddariad pwysig am ddysgwyr yn dychwelyd i ysgolion a cholegau, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer blynyddoedd 7, 8 a 9.https://t.co/5QQzJI1hRk pic.twitter.com/LQBLGK0USR
— Kirsty Williams (@wgmin_education) March 3, 2021