Mae Mark Drakeford wedi datgelu “gweledigaeth feiddgar ac uchelgeisiol” ei blaid ar gyfer Cymru ar drothwy etholiadau’r Senedd ym mis Mai.

“Rydym yn symud Cymru yn ei blaen” yw neges y prif weinidog wrth iddo lansio Darllediad Gwleidyddol y Blaid Lafur heddiw (dydd Mercher, Mawrth 3).

Yn y darllediad, mae pobol o bob cwr o Gymru – o Langollen i’r Fflint yn y gogledd ac o Gasnewydd i Gaerdydd yn y de – yn dweud pam y byddan nhw’n pleidleisio dros y blaid i arwain y llywodraeth nesaf.

Pobol 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio

Dyma’r etholiad cyntaf i bobol 16 ac 17 oed allu bwrw eu pleidlais yng Nghymru.

Un o’r rheiny yw Poppy o Gasnewydd.

“Mae Llafur Cymru eisiau i’n gwlad ni fod y wlad orau yn y byd i fod yn berson ifanc ynddi,” meddai.

“Dw i’n gwybod eu bod nhw’n gweld pobol ifanc fel lleisiau i wrando arnyn nhw ac fel trigolion â rhan yn nyfodol ein gwlad.”

Gwlad hyderus i genedlaethau’r dyfodol

Mae Feroze, dyn 76 oed o Gaerdydd, yn obeithiol ar gyfer y dyfodol wrth i’w ŵyr dyfu i fyny.

Mae’n dweud y bydd e’n tyfu i fyny mewn gwlad “na fydd yn berthynas dlawd i neb” ac mewn gwlad “sy’n gwybod pa mor fawr yw hi – ac sy’n gwybod fod y dyddiau gorau eto i ddod”.

Mae Joe, dyn 29 oed o’r Fflint, yn tynnu sylw at y cynllun i roi prydau bwyd am ddim i blant mewn ysgolion hyd at y Pasg y flwyddyn nesaf ac i adeiladu ysgolion a cholegau newydd ledled y wlad.

“Hyd yn oed wrth iddyn nhw ymdopi â heriau heddiw, maen nhw’n symud Cymru yn ei blaen tuag at ddyfodol gymdeithasol gyfiawn a chynaladwy,” meddai.

Adferiad Covid-19

Yn ôl Eleri Edwards, sy’n 83 oed ac yn dod o Langollen, bydd hi’n pleidleisio dros Lafur yn sgil y ffordd maen nhw wedi ymateb “yn ofalus” i’r pandemig Covid-19.

“Mae’r pandemig hwn wedi dangos sut y gall Cymru arwain y ffordd – gan ymddiried yn y sefydliadau hynny sy’n deall y cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu,” meddai.

“Mae Llafur Cymru wedi ei dweud hi fel ag y mae hi.

“Maen nhw wedi cadw pobol yn ddiogel ac wedi gwneud y penderfyniadau anodd sy’n angenrheidiol – hyd yn oed pan oedden nhw’n amhoblogaidd.”

Neges Mark Drakeford

Yn y darllediad, bydd Mark Drakeford yn dweud mai “pobol fel Poppy, Feroze, Joe ac Eleri sy’n gwneud Cymru y wlad dw i’n falch o’i harwain”.

“Straeon fel eu rhai nhw sy’n fy ysbrydoli a’m Llywodraeth bob dydd wrth i ni creu llwybr gyda’n gilydd allan o’r pandemig hwn, yn benderfynol o ddefnyddio’r gwersi rydyn ni wedi’u dysgu i symud Cymru yn ei blaen,” meddai.

“Mae ein gweledigaeth ar gyfer Cymru’n feiddgar ac yn uchelgeisiol – fel y dylai hi fod.

“Ac fel rydyn ni wedi’i weld yn fwy nag erioed eleni, mae ein gwlad ni’n un sydd â chapasiti eithriadol i ymateb i’r heriau mwyaf anodd.

“Nid dim ond efelychu gwledydd eraill, ond dangos y ffordd iddyn nhw.

“Dw i’n gwybod y bydd y misoedd sydd i ddod yn dod ag anawsterau ac y bydd siom.

“Ond dw i’n credu’n fwy cadarn nag erioed nad yw Cymru ond yn sefyll yn barod i’w goresgyn nhw, ond i ddefnyddio’r heriau hynny i adeiladu gwlad sy’n barod i wynebu’r dyfodol yn hyderus – fel y gallwn ni symud Cymru yn ei blaen gyda’n gilydd.”