Mae ymchwiliad i farwolaeth Mohamud Mohammed Hassan yn dangos nad oes “dim tystiolaeth” fod y defnydd o taser ynghlwm â marwolaeth y dyn 24 oed y cafwyd hyd iddo’n farw yn ei gartref ar ôl bod yn y ddalfa yng Nghaerdydd.
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi cyhoeddi diweddariad ac yn dweud hefyd fod y pump oedd yn byw yn y tŷ ar Heol Casnewydd yn y Rhath wedi dioddef o anafiadau cyn i’r Heddlu gyrraedd.
Yn dilyn aflonyddwch yn y tŷ yng Nghaerdydd, cafodd Mohamud Mohammed Hassan ei gadw yn y ddalfa ym Mae Caerdydd nos Wener, Ionawr 8, a’i ryddhau’n ddi-gyhuddiad y diwrnod canlynol.
Bu farw’n ddiweddarach, ar nos Sadwrn, Ionawr 9.
Mae ei deulu yn honni iddo ddioddef ymosodiad tra roedd e yn y ddalfa.
“Ar ôl gwrando ar yr alwad frys wreiddiol o nos Wener Ionawr 8, gwyddom fod swyddogion wedi mynd i’r fflat ar Heol Casnewydd wedi i bump o ddynion ddod i mewn i’r cyfeiriad ac yn ymladd gyda’r pump oedd yn byw yn yr eiddo,” eglura Catrin Evans, Cyfarwyddwr IOPC Cymru.
“Mae lluniau fideo wedi’u gwisgo gan gorff y swyddogion yn dangos bod nifer o’r rheini oedd yn byw yn yr eiddo wedi anafiadau wrth iddynt gyrraedd, a gofynnodd swyddogion am esboniadau ynghylch yr anafiadau.
“O chwilio’r fflat, adolygu lluniau, cofnodion swyddogion, gwybodaeth patholeg, a llwybr archwilio o ddefnydd Taser o fewn ardal Heddlu De Cymru y gofynnwyd amdani, nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod Mr Hassan wedi’i taseru ar unrhyw adeg naill ai cyn neu yn ystod ei gadw yn y ddalfa.
“Er nad oedd gan bob un ohonyn nhw gysylltiad uniongyrchol na chysylltiad â Mr Hassan, rydym yn dal i gasglu cyfrifon gan nifer fawr o swyddogion a staff yr heddlu a oedd ar ddyletswydd yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd dros ddwy shifft ar wahân a’r rhai a oedd mewn swyddi goruchwylio.”
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi cadarnhau eu bod wedi cael cofnodion manwl gan 46 o swyddogion.
Mae hyn yn cynnwys:
- 11 swyddog a fynychodd y cyfeiriad ar Ionawr 8
- 10 swyddog a fynychodd y cyferiad y noson ganlynol pan fu farw Mohamud Mohammed Hassan
- 13 o swyddogion a swyddogion dalfa a oedd ar ddyletswydd dros ddwy shifft
- 12 swyddog arall oedd wedi mynychu digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r cyfeiriad ar Heol Casnewydd tua’r adeg honno nad ydyn nhw’n cynnwys arestio na marwolaeth Mohamud Mohammed Hassan.
‘Llawer mwy o waith i’w wneud o hyd’
“Mae llawer mwy o waith i’w wneud o hyd i gwblhau ein hymchwiliad ac mae ein hymchwilwyr yn parhau i gasglu ac adolygu tystiolaeth i’n helpu i sefydlu’r digwyddiadau oedd wedi arwain at farwolaeth Mr Hassan,” meddai Catrin Evans.
“Mae angen i ni sicrhau ein bod wedi siarad ag unrhyw un a allai fod â gwybodaeth i’n helpu i greu darlun o’r hyn a ddigwyddodd.
“Rydym wedi canolbwyntio ar y ffilm o fideo oddi ar gamerâu corff yr heddlu ac o deledu cylch-cyfyng yn y ddalfa pan dreuliodd Mr Hassan amser yno a’i ryddhau o orsaf yr heddlu.
“Wrth i’n hadolygiad o’r deunydd hwn agosáu at ei gwblhau, bwriadwn symud ymlaen i graffu ar ffilm stryd a phreifat sydd gennym, a fydd, gobeithio, yn helpu i nodi symudiadau Mr Hassan ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r ddalfa, ac y gall agor llinellau ymholiadau pellach.
“Mae ymchwiliad fel hyn yn cymryd amser ac rydym yn gofyn i bobol fod yn amyneddgar wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddo.”