Bydd Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, yn amlinellu manylion llawn y Gyllideb a chyflwr economi’r Deyrnas Unedig yfory (dydd Mercher, Mawrth 2), ond mae nifer o’r cynlluniau eisoes wedi eu datgelu ymlaen llawn.

Mae cryn ddyfalu ynghylch beth arall fydd yn cael ei gyhoeddi wrth iddo barhau i geisio cefnogi’r economi drwy’r pandemig.

Mae adroddiadau bod disgwyl iddo ymestyn cyfres o fesurau cymorth Covid, fel y cynllun ffyrlo, sydd i fod i ddod i ben yn fuan.

Fe ddaw’r cyhoeddiad llawn ddiwrnod ar ôl i Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, gyhoeddi’r Gyllideb Derfynol yng Nghymru.

Yn ôl Recca Evans bydd Cyllideb Llywodraeth Cymru sy’n cynnwys £630m i gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd a llywodraeth leol yn “sicrhau adferiad” yn dilyn y pandemig.

Dyma’r cynlluniau sydd wedi’u cyhoeddi yng Nghyllideb Llywodraeth y DU hyd yn hyn:

  • Cefnogaeth i sectorau sy’n parhau ynghau

Cynllun gwerth £5bn i helpu tafarndai, bwytai, siopau a busnesau eraill yn Lloegr sydd wedi eu taro galetaf gan y coronafeirws.

Fel rhan o’r cynllun, bydd manwerthwyr nad ydyn nhw’n cynnig gwasanaeth hanfodol yn gymwys i gael “grantiau ailgychwyn” o £6,000, gan godi i £18,000 ar gyfer sectorau fydd yn ailagor yn ddiweddarach – fel lletygarwch, hamdden a gofal personol.

Bydd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael £794m yn ychwanegol o gyllid drwy Fformiwla Barnett.

  • £93m i fusnesau Cymru

Mae disgwyl i fusnesau Cymru dderbyn mwy na £93m, gyda’r buddsoddiad yn creu bron i 13,000 o swyddi.

Bydd peth o’r cyllid yn mynd tuag at ddiwydiannau megis trafnidiaeth, amaeth ac isadeiledd.

  • Rhaglen frechu

Bydd hwb o £1.65bn biliwn i’r rhaglen frechu er mwyn sicrhau bod y llywodraeth yn cyrraedd ei tharged o gynnig dos cyntaf i bob oedolyn yn yng ngwledydd Prydain erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi yn y Gyllideb derfynol y bydd yn darparu £380m yn ychwanegol ar gyfer chwe mis cyntaf 2021-22 i gefnogi’r rhaglen frechu, cynnal capasiti profi Covid-19 a rheoli’r haint.

  • Banc Seilwaith newydd

Bydd £22bn ar gyfer Banc Seilwaith newydd y Deyrnas Unedig, gyda £12bn o gyfalaf a £10bn o warantau, i sbarduno buddsoddiad gwerth £40bn mewn prosiectau seilwaith yn dilyn y pandemig.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi bydd £224.5m yn y Gyllideb derfynol yn cefnogi ymdrechion ail-greu a buddsoddi mewn seilwaith.

  • Morgeisi
Cynllun gwarant morgais i annog pobol i fod yn berchen ar gartrefi ac i helpu prynwyr gyda blaendaliadau o ddim ond 5% i fynd ar yr ysgol eiddo.

Bydd y llywodraeth yn tanysgrifennu cyfran o fenthyciadau risg ar eiddo hyd at £600,000.

  • Llwybr “elitaidd” i fudwyr

Diwygio’r system fudo i annog gweithwyr medrus iawn i ddod i’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys ymchwilwyr, peirianwyr, gwyddonwyr a’r rhai yn y sector technoleg, drwy lwybr “elitaidd” newydd sy’n seiliedig ar bwyntiau.

  • Bond cynilo gwyrdd

Fe fydd bond cynilo gwyrdd cyntaf y byd ar gyfer buddsoddwyr manwerthu yn golygu buddsoddi £70m  mewn storio ynni carbon isel yn y tymor hir, £20m yng ngwynt y môr a £4m ar gyfer cnydau ynni gwyrdd.

  • Mynd i’r afael â thwyllwyr Covid-19

Bydd tasglu Diogelu Trethdalwyr newydd yn cael ei greu yn y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â thwyllwyr Covid-19 sy’n manteisio ar gefnogaeth ariannol gan y Llywodraeth fel ffyrlo.

  • Cymorth thalidomid

Bydd cymorth ariannol i ddioddefwyr thalidomid am weddill eu hoes, gyda thaliad o £39m ar gael am y pedair blynedd nesaf.

  • Prentisiaethau

Bydd £126m ar gael i greu 40,000 o brentisiaethau newydd yn Lloegr, tra bydd y gefnogaeth ariannol i gyflogwyr sy’n cyflogi prentis yn cael codi i £3,000.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi yn y Gyllideb Derfynol y bydd £16.5m yn cael ei fuddsoddi i gynnal y lefelau presennol o leoedd prentisiaeth yng Nghymru 2021-22.

  • Cymorth i gyn-filwyr

Bydd £10m i gefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog ledled gwledydd Prydain sydd yn dioddef salwch iechyd meddwl.

Yn ôl adroddiadau, dyma’r cynlluniau mae’r Canghellor yn ystyried eu cyhoeddi:

  • Treth gorfforaeth

Gall fod cynnydd yn y dreth gorfforaeth ar gyfer busnesau sydd ar eu hennill o ran elw, o 19c y bunt i 23-25c.

  • Yswiriant Gwladol

Cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol 4.5m o bobol hunangyflogedig y wlad.

  • Ymestyn cymorth Covid

Bydd cyfres o fesurau cymorth Covid sydd i ddod i ben yn cael eu hymestyn, gan gynnwys y cynllun ffyrlo, y Credyd Cynhwysol o £20 yr wythnos a’r toriad i’r dreth stamp.

Llywodraeth Cymru’n datgelu Cyllideb Derfynol

Y Gyllideb wedi’i dylunio i “sicrhau adferiad” yn dilyn pandemig y coronafeirws, medd Rebecca Evans