Mae disgwyl i fusnesau Cymru dderbyn mwy na £93m pan fydd Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, yn cyhoeddi ei Gyllideb ddydd Mercher (Mawrth 3).
Y bwriad yw y bydd y buddsoddiad hwn yn creu bron i 13,000 o swyddi ac yn cyflymu adferiad gwyrdd.
Bydd peth o’r cyllid yn mynd tuag at ddiwydiannau megis trafnidiaeth, amaeth ac isadeiledd.
Daw wedi i gannoedd o filoedd o bobol ledled Cymru gael eu rhoi ar ffyrlo neu eu diswyddo o ganlyniad i bandemig y coronafeirws, gyda nifer o fusnesau mawr hefyd yn mynd i’r wal.
“Rydym wedi diogelu swyddi ac wedi cefnogi busnesau drwy gydol y pandemig hwn ac yn awr rydym yn edrych ymlaen gyda mwy o optimistiaeth at adferiad a arweinir gan fuddsoddiad ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan,” meddai Rishi Sunak cyn cyhoeddi ei Gyllideb.
“Bydd y mesurau hyn yn helpu Cymru i baratoi’r ffordd i ddyfodol gwyrddach, creu swyddi sgiliau uchel newydd ac adeiladu’r seilwaith sydd ei angen i sbarduno twf mewn sectorau allweddol ac adeiladu’n ôl yn well.”
Cyllid ychwanegol i Ogledd a Chanolbarth Cymru
Mae disgwyl i’r Canghellor gyhoeddi £58.7m o gyllid dros y pum mlynedd nesaf ar gyfer buddsoddiad yng ngogledd a chanolbarth Cymru.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn buddsoddi £665.6m mewn pedwar ‘Cytundeb Dinas a Thwf’ yng Nghymru, gyda chyfanswm o £120m yn y gogledd a £55m yng nghanolbarth Cymru.
Bydd gogledd Cymru yn derbyn £4.4m ychwanegol y flwyddyn o 2021/22, tra bod disgwyl i’r canolbarth dderbyn £1.8m yn ychwanegol.
Canolfan hydrogen i Gaergybi
Ddydd Mercher (Mawrth 3), mae disgwyl i Rishi Sunak gyhoeddi £4.8m i dreialu canolfan hydrogen yng Nghaergybi. Gallwch ddarllen mwy am hyn isod.
£4.8m i ddatblygu Canolfan Hydrogen yn “newyddion gwych i Fôn”
£30m i Gastell-nedd Port Talbot
Yn ogystal, mae’n debyg y bydd Rishi Sunak yn darparu hyd at £30m ar gyfer cyfleuster profi rheilffyrdd a seilwaith newydd sydd wedi’i gynllunio ar gyfer Castell-nedd Port Talbot.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru hefyd, bydd y ganolfan yn gweld hyd at 120 o swyddi’n cael eu creu ac yn dangos bod Cymru’n ganolbwynt ar gyfer ymchwil a datblygu, a thechnoleg rheilffyrdd carbon isel.
“Cyfle wedi’i golli”, medd Plaid Cymru
Ond mae Plaid Cymru’n dweud bod cyfle wedi’i golli yn y Gyllideb.
“Mae’n gyfle a gollwyd i gefnogi llywodraeth leol ac i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus – cynghorau sydd wedi perfformio’n arwrol dros y deuddeg mis diwethaf yn wyneb pwysau digynsail,” meddai Rhun ap Iorwerth, llefarydd Cyllid y blaid.
“Mae’n gyfle wedi’i golli i ddarparu cymorth ychwanegol i fusnesau gan gynnwys lletygarwch a thwristiaeth.
“Mae’n gyfle wedi’i golli i dynnu’r pwysau oddi ar drethdalwyr lleol drwy rewi’r dreth gyngor ac i helpu’r tlotaf mewn cymdeithas drwy ymestyn cymhwysedd prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn cartrefi ar gredyd cynhwysol.
“Mae angen i ni gadw arian i lifo i helpu’r busnesau hynny sydd wir ei angen, i helpu gyda’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal, ac i helpu’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
“Mae pandemig COVID-19 wedi rhoi pwysau digynsail ar wariant cyhoeddus yng Nghymru ac wedi amlygu anghydraddoldebau sydd wrth wraidd ein cymdeithas. Yn anffodus, mae’r gyllideb hon wedi methu â mynd i’r afael â hynny.
“Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru yn barod gyda rhaglen o fuddsoddi biliynau o bunnoedd wrth ailadeiladu Cymru – nid yn ôl i’r lle roedden ni cyn y pandemig, ond i lefel lle gallwn ni fod yn llawer mwy uchelgeisiol yn yr hyn rydyn ni’n ceisio ei gyflawni fel cenedl o gydraddoli.”