Mae disgwyl i’r Canghellor gyhoeddi yn y Gyllideb ddydd Mercher (Mawrth 3) y bydd Canolfan Hydrogen newydd yng Nghaergybi yn elwa o £4.8m.
Mae’n rhan o gynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fuddsoddi mwy na £93m ym musnesau Cymru.
Bydd y ganolfan cynhyrchu hydrogen yn cael ei chynllunio i gynhyrchu a dosbarthu hydrogen gwyrdd a wneir gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy i’w ddefnyddio mewn cerbydau nwyddau trwm, gan helpu i ddatgarboneiddio trafnidiaeth sy’n gollwng carbon yn uchel.
Y cyntaf o’i fath yng Nghymru, bydd y cynllun yn cael ei ddatblygu gan Fenter Môn, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn ac mae’n rhan o weledigaeth y rhaglen Ynys Ynni i greu swyddi a thwf economaidd yn yr ardal.
‘Newyddion gwych i Fôn’
Yn ôl adroddiad gan Fenter Môn, gallai’r cynllun greu hyd at 30 o swyddi newydd uniongyrchol a 500 pellach mewn busnesau lleol.
“Mae hyn yn newyddion gwych i Menter Môn ac yn hwb enfawr i’r cynllun yma yng Nghaergybi,” meddai Dafydd Gruffydd, Rheolwr-gyfarwyddwr Menter Môn wrth golwg360.
“Ein gobaith yw sicrhau bod Ynys Môn a’r rhanbarth yn ehangach mewn sefyllfa gref i chwarae rhan flaenllaw yn y sector hydrogen, sector sy’n tyfu ac sy’n cynnig cyfleoedd sylweddol o ran swyddi, sgiliau a’r gadwyn gyflenwi.
“Beth sy’n unigryw am y cynllun hwn hefyd yw ein bod ni, fel sefydliad trydydd sector, yn arwain ar y datblygiad ac felly yn gallu sicrhau perchnogaeth leol.
“Gyda’r angen i adfer yr economi mewn ffordd gynaliadwy wedi’r pandemig, rwy’n credu gall Hwb Hydrogen Caergybi chwarae rhan allweddol hefyd wrth i’r pwyslais ar ddatgarboneiddio gynyddu, gyda’r nod o gynhyrchu hydrogen gwyrdd gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy o gynlluniau fel ein prosiect ynni llanw, Morlais.”
Fis Tachwedd y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £105,000 cychwynnol ar gyfer y datblygiad.