Mae Undeb Rygbi Cymru wedi ymuno â Rygbi Lloegr i gondemnio camdriniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol a gyfeiriwyd at chwaraewyr Lloegr ac aelodau o’r cyfryngau yn dilyn buddugoliaeth Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Datgelodd prop Lloegr Ellis Genge ei fod wedi dioddef bygythiadau yn erbyn ei fywyd ar ôl iddo gael ei weld ddim yn clapio i chwaraewyr Cymru.

A datgelodd Sonja McLaughlan, gohebydd teledu’r BBC, sut roedd sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl y gêm wedi ei gadael mewn dagrau.

Mewn datganiad, dywedodd Undeb Rygbi Cymru: “Rydym wedi ein siomi a’n tristáu’n fawr gan y cam-drin ar y cyfryngau cymdeithasol a gyfeiriwyd at chwaraewyr ein gwrthwynebwyr ac aelodau o’r cyfryngau yn dilyn y gêm dros y penwythnos.

“Fel cymuned rygbi, mae’r unigolion hyn wedi ein siomi i gyd. Mae’n rhaid i hyn ddod i ben. Nid yw’n dderbyniol.”

Galw ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol i roi terfyn ar gyfrifon dienw

Yn y cyfamser, mae cwmnïau cyfryngau cymdeithasol wedi cael eu hannog eto i roi terfyn ar gyfrifon dienw ar ôl i ohebydd teledu y BBC, Sonja McLaughlan, gael ei cham-drin ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl gêm Cymru a Lloegr.

Roedd pobol yn flin gyda hi ar ôl ei chyfweliadau oedd yn cynnwys cwestiynau i gapten Lloegr, Owen Farrell, a’r prif hyfforddwr, Eddie Jones.

Mae Undeb Rygbi Cymru a Rygbi Lloegr wedi anfon cefnogaeth at Sonja McLaughlan, a ddisgrifiodd sut roedd sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol wedi ei gadael mewn dagrau.

Dywedodd y gohebydd rygbi, Lauren Jenkins, bod rhaid gwneud i ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol gadarnhau pwy ydyn nhw.

“Ofnadwy o annheg…”

“I mi, yr unig ffordd yw cael defnyddwyr i gadarnhau eu hunaniaeth,” meddai Lauren Jenkins.

“Byddwn i’n dweud fy mod i’n cyfyngu ar fy nefnydd [o’r cyfryngau cymdeithasol] y dyddiau hyn.

“Rwy’n meddwl ddwywaith am drydar pethau ac mae’n debyg fy mod yn llai dadleuol nag y byddwn i … oherwydd does gen i ddim awydd delio â’r ymatebion.

“Mae Twitter yn gallu bod yn fwystfil ofnadwy weithiau ac ni ddylai neb gael ei bwlio am wneud eu gwaith.

“Mae’n gallu bod yn waith eithaf unig ar adegau.

“Mae’n ofnadwy o annheg, oherwydd mae gan Sonja flynyddoedd o brofiad.

“Mae’r syniad mai’r peth cyntaf y mae hi’n dod ar ei draws ar ôl hynny yw ton o gamdriniaeth yn drist iawn.”

Yan Dhanda

Pêl-droediwr Asiaidd Abertawe’n galw am waharddiad oes am negeseuon hiliol ar y we

Alun Rhys Chivers

“Dydy’r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol ddim wedi fy argyhoeddi y byddan nhw’n gwneud yn well y tro nesaf” medd Yan Dhanda wrth golwg360

Cyrff pêl-droed Lloegr yn galw ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol i fynd i’r afael â hiliaeth

Cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn “hafanau ar gyfer camdriniaeth” meddai arweinwyr pêl-droed yn Lloegr

Ashton Hewitt eisiau i’r awdurdodau rygbi gydnabod fod hiliaeth yn broblem

Asgellwr y Dreigiau’n datgelu’r negeseuon hiliol mae e wedi’u derbyn ar y cyfryngau cymdeithasol