Mae’r dyfarnwr rygbi, Pascal Gaüzère, wedi cwympo ar ei fai ar ôl gwneud penderfyniadau dadleuol yn ystod buddugoliaeth Cymru yn erbyn Lloegr.

Fe wnaeth y Ffrancwr roi dau gais dadleuol i Gymru yn ystod hanner awr agoriadol y gêm – i Josh Adams a Liam Williams.

Mae Eddie Jones, prif hyfforddwr Lloegr, wedi penderfynu peidio â chwyno’n swyddogol wrth World Rugby am berfformiad y dyfarnwr.

Wrth siarad â’r papur newydd Ffrangeg, Midi Olympique, dywedodd Joel Jutge, Pennaeth Dyfarnwyr Rygbi’r Byd, fod Gaüzère yn cydnabod fod y ddau benderfyniad dadleuol yn anghywir.

“Rwy’n credu bod yn rhaid i chi gydnabod eich camgymeriadau yn hytrach na gadael i bethau fynd yn i blaen,” meddai Joel Jutge.

“Yn y gêm yma roedd dau ddigwyddiad anffodus, nad oeddent yn hawdd i’w rheoli. Rwy’n gwybod o fod wedi siarad ag ef dros y ffôn fore Sul fod Pascal Gaüzère yn cydnabod hynny ei hun.”

Cais Adams

Cyn cais Josh Adams, cafodd Lloegr gerydd yn sgil eu diffyg disgyblaeth ac wrth i Owen Farrell drosglwyddo neges y dyfarnwr, cymerodd Cymru’r gic gosb yn gyflym wrth i Dan Biggar gicio’n lletraws i’r ystlys i ddwylo’r asgellwr Josh Adams.

“O’r eiliad pan fydd dyfarnwr yn dweud ‘Time On‘ gall y gêm ailddechrau,” esboniodd Joel Jutge.

“Ond roedd hi’n gyfrifoldeb arno [Gaüzère] i wneud yn siŵr bod y Saeson wedi cael amser i ad-drefnu eu hunain, oherwydd ef oedd wedi gofyn i’r capten siarad â’i chwaraewyr.”

Cais Liam Williams

Yr ail ddigwyddiad oedd cais Liam Williams, roedd cryn drafodaeth a wnaeth yr asgellwr Louis Rees-Zammit daro’r bêl ymlaen.

“Nid oedd y bêl o dan reolaeth yr asgellwr Cymreig [Louis Rees-Zammit] ac aeth ymlaen o’i goes,” meddai Joel Jutge.

“Wrth edrych ar y cyfreithiau, nid oes cyfeiriad at golli rheolaeth, dyna pam mae’r sefyllfa wedi achosi dryswch.

“Ond y realiti yw pe bai [Gaüzère] wedi chwibanu am hyn, ni fyddai neb wedi gallu cwyno.

“Mae’n un o wendidau’r TMO, y tueddiad yna i edrych yn rhy fanwl ar bethau bron iawn gyda microsgop. Mae cydbwysedd yn bwysig ac yn yr achos hwn, byddai ychydig o synnwyr cyffredin wedi bod yn ddigonol.

“Mae yna golli rheolaeth, mae’r bêl yn mynd yn ei blaen, felly mae’n ei gnocio ymlaen. Edrychodd Pascal ar y sefyllfa fore Sul ac ef yw’r cyntaf i gyfaddef hynny.

“Pan fyddwch chi’n gwneud camgymeriad, mae’n well cydnabod hynny.

“Nid yw’n newid y ffaith ei fod yn ddyfarnwr rhyngwladol rhagorol.”

Lloegr ddim am gwyno am berfformiad y dyfarnwr ar ôl colli yn erbyn Cymru

Fe wnaeth y Ffrancwr Pascal Gauzere sawl penderfyniad dadleuol wrth i Gymru ennill o 40-24

Cymru’n dathlu’r Goron Driphlyg

Tîm Wayne Pivac wedi sicrhau’r tlws gyda buddugoliaeth o 40-24 dros Loegr yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd