Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gyngor Sir Gâr i roi “sicrwydd” i ysgolion y sir sy’n mynd drwy ymgynghoriad cyhoeddus.

Daw hyn ar ôl i Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr gyhoeddi ei fod yn ymestyn y cyfnod ymgynghori ar gyfer pedwar o wahanol gynigion ysgolion nes ei fod yn cyfarfod eto i’w trafod heddiw (Mawrth 1).

Dylai’r ymgynghoriadau ar Ysgol Mynydd-y-Garreg ac Ysgol Gwenllian, Ysgol Blaenau ac Ysgol Llandybie, Ysgol Gynradd Dyffryn y Swistir, ac Ysgol Rhyd-y-gors fod wedi dod i ben ar Chwefror 21.

Fodd bynnag, ar Chwefror 22 cynigiodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant, fod y cyfnod ymgynghori yn cael ei ymestyn hyd nes y bydd y Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod ar Fawrth 1 i drafod Hysbysiad o Gynnig ynghylch a yw’n briodol ymgynghori ar ddarpariaeth addysg yn ystod y pandemig.

“Trafododd y Cyngor Llawn Hysbysiad o Gynnig ar egwyddor ymgynghoriadau ar faterion megis darpariaethau addysg yn ei gyfarfod ar 10 Chwefror. Daw’r Hysbysiad o Gynnig hwnnw gerbron y Bwrdd Gweithredol ar 1 Mawrth er mwyn penderfynu yn ei gylch,” meddai’r Cynghorydd Glynog Davies ar y pryd.

“Sicrwydd”

Wrth ymateb i benderfyniad Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin, dywedodd Ffred Ffransis ar ran Rhanbarth Caerfyrddin o’r Gymdeithas: “Yn ystod y cyfnod chwe wythnos o ymgynghori fe wnaeth llywodraethwyr a rhieni Mynydd-y-Garreg frwydro yn erbyn yr ods i lunio Cynllun Busnes blaengar a thrylwyr ar gyfer dyfodol yr ysgol.

“Er mwyn sicrhau nad gwastraff amser fydd y pedwar mis nesaf, gofynnwn i’r Cyngor – yn aelodau etholedig yn ogystal â swyddogion – i ddefnyddio’r amser, fel arwydd o ewyllys da ac o werthfawrogiad o waith y llywodraethwyr, i drafod y Cynllun yn fanwl gyda nhw fel eu bod yn gallu rhoi iddynt sicrwydd am eu dyfodol.

“Mae hefyd amser digonol i symud ymlaen at ffurfio ffederasiwn rhwng Ysgolion Mynydd-y-Garreg a Gwenllian gan nad oes angen yr un broses gyfreithiol i sefydlu ffederasiwn o’r fath.

“I bob pwrpas, mae cynnig gwreiddiol y Cyngor, o ran cau’r ysgol, wedi syrthio gan y byddai angen amserlen cwbl wahanol i’r hyn sydd yn y ddogfen ymgynghorol.

“Daeth cyfle felly am drafod cadarnhaol a sail lewyrchus i addysg Gymraeg yn yr ardal yn ysgolion Gwenllian A Mynydd-y-Garreg.

“Dylid defnyddio’r cyfamser hefyd i sicrhau fod y cais am yr adeiladau newydd yn barod fel na bob oedi pellach i Ysgol Gwenllian chwaith.”

Ymestyn cyfnod ymgynghori ar gyfer pedwar o wahanol gynigion ysgolion

Dylai’r ymgyngoriadau fod wedi dod i ben ddoe (dydd Sul, Chwefror 21)

Dechrau ymgynghoriad i ddyfodol Ysgol Mynydd-y-Garreg

Y penderfyniad i gynnal yr ymgynghoriad tra bod yr ysgol ar gau oherwydd y pandemig yn un “arbennig o greulon” meddai Cymdeithas yr Iaith