Mae llys ym Mharis wedi cael cyn-Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy, yn euog o lygredd a phedlera dylanwad – ac wedi ei ddedfrydu i flwyddyn yn y carchar yn ogystal â dwy flynedd o ddedfryd ohiriedig.
Cafodd y gwleidydd 66 oed, a oedd yn Arlywydd rhwng 2007 a 2012, ei gollfarnu am geisio cael gwybodaeth yn anghyfreithlon gan uwch-ynad yn 2014 am weithred gyfreithiol yr oedd yn ymwneud â hi.
Mae’n annhebygol y bydd y cyn-Arlywydd yn mynd i’r carchar mewn gwirionedd – dywedodd y llys y bydd gan Sarkozy hawl i wneud cais i gael ei gadw gartref gyda breichled electronig.
Hefyd, mae Sarkozy yn bwriadu apelio a bydd yn parhau’n rhydd wrth iddo wneud hynny.
“Arbennig o ddifrifol”
Dyma’r tro cyntaf yn hanes modern Ffrainc i gyn-lywydd gael ei gollfarnu am lygredd.
Roedd Sarkozy wedi gwadu’n bendant yr holl honiadau yn ei erbyn yn ystod y treial 10 diwrnod a gynhaliwyd ddiwedd y llynedd.
Dywedodd y llys fod y ffeithiau’n “arbennig o ddifrifol” o ystyried eu bod wedi’u cyflawni gan gyn-Arlywydd a ddefnyddiodd ei statws i helpu ynad a oedd wedi gweithredu er ei fudd personol.
Yn ogystal, fel cyn-gyfreithiwr, roedd Sarkozy yn “gwbl wybodus” am gyflawni gweithred anghyfreithlon, meddai’r llys.
Cafwyd cyd-ddiffynyddion Sarkozy – ei gyfreithiwr a’i ffrind ers amser maith, Thierry Herzog, 65, a’r ynad Gilbert Azibert, 74, sydd bellach wedi ymddeol – yn euog ac yn cael yr un ddedfryd â’r gwleidydd.
Canfu’r llys fod Sarkozy a’i gyd-ddiffynyddion yn selio “pact o lygredd” yn seiliedig ar “dystiolaeth gyson a difrifol”.
Cefndir yr achos
Roedd yr achos yn bennaf seiliedig ar sgyrsiau ffôn a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2014.
Ar y pryd, roedd barnwyr ymchwiliol wedi lansio ymchwiliad i ariannu ymgyrch arlywyddol 2007.
Yn ystod yr ymchwiliad, darganfuwyd ar hap fod Sarkozy ac Herzog yn cyfathrebu drwy ffonau symudol cyfrinachol a gofrestrwyd i’r enw ffug “Paul Bismuth”.
Ar sail y sgyrsiau hyn, dechreuodd erlynwyr amau bod Sarkozy ac Herzog wedi addo swydd i Azibert ym Monaco yn gyfnewid am ddatgelu gwybodaeth am achos cyfreithiol arall, achos Bettencourt – sydd wedi’i enwi ar ol menyw gyfoethocaf Ffrainc, Liliane Bettencourt, sef aeres cwmni L’Oreal.
Yn un o’r galwadau ffôn hyn gyda Herzog, dywedodd Sarkozy am Azibert: “Fe fydda i’n gwneud iddo symud i fyny … Fe fydda i’n ei helpu.”
Mewn un arall, atgoffodd Herzog Sarkozy i “ddweud gair” am Azibert yn ystod taith i Monaco.
Nid oes achos cyfreithiol yn erbyn Sarkozy yn achos Bettencourt bellach. A ni chafodd Azibert erioed swydd ym Monaco.
Fodd bynnag, mae’r erlyniad wedi dod i’r casgliad bod yr “addewid a ddatganwyd yn glir” ynddo’i hun yn drosedd lygru o dan gyfraith Ffrainc, hyd yn oed os na chyflawnir yr addewid.
Gwrthododd Sarkozy unrhyw fwriad maleisus yn bendant.
Dywedodd wrth y llys fod ei fywyd gwleidyddol yn ymwneud â “rhoi ychydig o help i [bobl]. Dyna’r cyfan ydyw, ychydig o help,” meddai yn ystod yr achos.
Roedd cyfrinachedd cyfathrebu rhwng cyfreithiwr a’i gleient yn bwynt dadleuol iawn yn yr achos ddiweddaraf.
“Mae gennych chi ddyn o’ch blaen y mae mwy na 3,700 o’i sgyrsiau preifat wedi’u recordio… Beth wnes i i haeddu hynny?” dywedodd Sarkozy yn ystod yr achos.
Dadleuodd cyfreithiwr Sarkozy, Jacqueline Laffont, fod yr achos cyfan yn seiliedig ar “siarad bach” rhwng cyfreithiwr a’i gleient.
Daeth y llys i’r casgliad bod defnyddio sgyrsiau wedi’u recordio yn gyfreithlon cyn belled â’u bod wedi helpu i ddangos tystiolaeth o droseddau’n ymwneud â llygredd.
Achosion eraill
Bydd Sarkozy yn wynebu achos arall yn ddiweddarach y mis hwn, ynghyd â 13 o bobl eraill, ar gyhuddiadau o ariannu ei ymgyrch arlywyddol yn 2012 yn anghyfreithlon.
Amheuir bod ei blaid wedi gwario 42.8 miliwn ewro (£37 miliwn), bron ddwywaith yr uchafswm a awdurdodwyd, i ariannu’r ymgyrch, a arweiniodd at fuddugoliaeth Francois Hollande.
Mewn ymchwiliad arall a agorwyd yn 2013, cyhuddir Sarkozy o fod wedi cymryd miliynau o gan unben Libya ar y pryd, Muammar Gaddafi, i ariannu ei ymgyrch yn 2007 yn anghyfreithlon.
Cafodd gyhuddiadau rhagarweiniol o lygredd goddefol, ariannu ymgyrchoedd anghyfreithlon, cuddio asedau wedi’u dwyn o Libya, a chydgysylltu troseddol. Mae wedi gwadu’r cyhuddiadau.