Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd £682m ychwanegol ar gael i ymateb i’r pandemig yng Nghymru.

Daw’r cyhoeddiad cyn i Weinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, gyhoeddi’r gyllideb derfynol yfory.

“Mae hyn yn cynnwys mwy na £635m i’r Gwasanaeth Iechyd a’n awdurdodau lleol i’w helpu i barhau i’n helpu ni dros y chwe mis nesaf,” meddai’r Prif Weinidog.

Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys £206.5m ychwanegol ar gyfer Cronfa Galed Covid-19 Llywodraeth Leol, sy’n cefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol hanfodol a sicrhau y gall ysgolion addasu i’w ffyrdd newydd o weithio.

Mae hefyd £10.5m ychwanegol i ymestyn y Gronfa Cymorth Dewisol, sy’n rhoi cymorth i’r bobol fwyaf agored i niwed yng Nghymru yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Bydd y Llywodraeth hefyd yn cryfhau cymorth i brentisiaethau gyda buddsoddiad ychwanegol o £16.5m ac yn darparu £18.6m ychwanegol i gynnal darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus hanfodol.

“Drwy gydol y pandemig, mae rôl ein partneriaid yn y sector cyhoeddus – ein Gwasanaeth Iechyd ac awdurdodau lleol – wedi bod yn arwrol,” meddai.

“Mae’r sector cyhoeddus wedi cydweithio i ddiogelu pobol Cymru mewn ffordd unigryw Gymreig.

“Bydd y pecyn sylweddol o fuddsoddiad yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw yn helpu i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol mewn cyfnod anodd tu hwnt, nes daw’r argyfwng hwn i ben.”

‘Gwneud y pethau bychain’

Ar Ddydd Gŵyl Dewi fe dalodd y Prif Weinidog deyrnged i bawb sydd wedi gwneud y “pethau bychain” dros y flwyddyn ddiwethaf yn ystod y pandemig.

Mae “arwyddion calonogol bod y gwaethaf o’r ail don y tu ôl i ni gobeithio”, meddai.

“Mae gwanwyn yn y tir, mae Cymru wedi ennill y Goron Driphlyg, ac roedd yna garreg filltir bwysig dros y penwythnos wrth i dros filiwn dos o’r brechlyn gael eu rhoi yng Nghymru.

“Mae 100,000 o bobol bellach wedi cael dau ddos o’r brechlyn, 3% o’r boblogaeth, canran uwch nag unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig.

“Mae’n cynllun brechu yn frwydr fach yn erbyn yr haint ac yn ein helpu i ddarparu dyfodol gwell.”

Ffigurau diweddaraf y feirws

Mae achosion yn parhau i ostwng – mae 64 achos fesul 100,000 o bobol yng Nghymru, a’r gyfradd yn is na 100 ym mhob 100,000 ym mhob rhan o Gymru.

Dyma’r gyfradd isaf ymhlith pedair gwlad y Deyrnas Unedig, a’r isaf yng Nghymru ers y saith diwrnod hyd at Fedi 22, 2020.

Dim ond un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru a welodd gynnydd yn y cyfraddau yn y ffigurau diweddaraf, sef Torfaen, i fyny o 64.9 i 78.8.

Ffigurau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 3 yn rhagor o farwolaethau’n ymwneud â Covid-19 dros y 24 awr ddiwethaf.

Mae’n golygu bod 5,343 o bobol bellach wedi marw ar ôl cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru,

Mae 193 o achosion newydd hefyd wedi eu cadarnhau gan fynd a’r cyfanswm i 203,819 ers dechrau’r pandemig.