Mae’r cyhoeddwr papur newydd Reach wedi cyhoeddi cwymp yn ei elw heddiw (ddydd Llun, Mawrth 1) wrth i’r cwmni gael ei daro gan gyfres o gostau yn sgil y pandemig.

Dywedodd y cwmni, sy’n berchen ar bapur y Western Mail, ynghyd a’r Daily Mirror a’r Daily Star, fod ei elw cyn treth wedi gostwng o £120.9 miliwn yn 2019 i ddim ond £400,000 yn 2020.

Fe wnaeth cyhoeddiadau ar-lein y cwmni ei helpu i osgoi gostyngiad mwy, wrth i refeniw digidol dyfu 10.6% wrth i bobol sydd gartref yn ystod y pandemig ddarllen mwy o newyddion ar eu ffonau, tabledi a gliniaduron.

Fodd bynnag, dioddefodd gwerthiant papurau newydd y cwmni, gyda refeniw argraffu wedi gostwng 18.9% oherwydd effaith Covid-19.

Roedd hyn wedi lleddfu rhywfaint yn nau fis olaf y flwyddyn, meddai Reach.

“Wedi cyflawni ein cerrig milltir strategol”

“Rydym wedi cyflawni ein cerrig milltir strategol cyn ein disgwyliadau gwreiddiol a byddwn nawr yn cynyddu buddsoddiad i gyflymu’r broses gyflawni,” meddai’r prif weithredwr Jim Mullen.

Mae’r cwmni wedi talu £9.3 miliwn mewn taliadau diswyddo.

Ym mis Gorffennaf dywedodd y busnes y byddai’n cael gwared a tua 550 o swyddi, neu 12% o’i weithlu, fel rhan o ostyngiadau mewn costau a fyddai’n arbed tua £35 miliwn y flwyddyn.

Cyrhaeddodd y gost o leihau’r costau hynny £36.4 miliwn, gan gynnwys mwy na £10 miliwn i gau dau safle argraffu.

“Mae Reach wedi dod yn fusnes cryfach yn 2020 diolch i waith caled ac ymrwymiad parhaus ein staff yn ystod y flwyddyn ddigynsail hon,” meddai Jim Mullen.