Mae teuluoedd tri physgotwr sydd yn parhau ar goll oddi ar arfordir gogledd Cymru yn codi arian er mwyn ceisio dod o hyd iddynt.

Mae’r teuluoedd yn ceisio codi £75,000 i dalu am chwiliad preifat i ddod o hyd i Carl McGrath, 34, Alan Minard, 20 a Ross Ballantine, 39.

Gadawodd cwch y ‘Nicola Faith’  harbwr Conwy ar Ionawr 27, ac fe ddechreuodd y chwilio’r bore canlynol ar ôl i’r cwch fethu dychwelyd i’r harbwr.

Wythnos yn ddiweddarach – ar ôl i fadau achub, hofrennydd ac awyren fod yn rhan o’r chwilio – daeth Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a’r chwilio i ben hyd nes y ceir rhagor o wybodaeth.

Er fod Cangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol yn parhau i ymchwilio mae’r teuluoedd yn awyddus i ariannu tîm achub preifat fel yr un  ddaeth o hyd i’r pêl-droediwr Emiliano Sala yn 2019.

Mae David Mearns, yr arbenigwr a ddaeth o hyd i’r awyren oedd yn cludo chwaraewr pêl-droed dinas Caerdydd, yn ffyddiog fod modd dod o hyd i’r cwch.

‘Arian angenrheidiol’

“Yr ydym yn awr yn ceisio codi’r arian angenrheidiol ar gyfer chwiliad preifat gan arbenigwyr sydd, yn ein barn ni, a’r gallu gorau i’n galluogi i ddod â’n bechgyn adref,” meddai datganiad ar ran y teulu ar dudalen Crowdfunding.

“Ni allwn ariannu hyn ar ein pen ein hunain ac mae arnom angen cefnogaeth pawb a all helpu.

“Un o’r pethau anoddaf sydd wedi dod o hyn yw’r diffyg gwybodaeth, gan ei fod yn gadael y teuluoedd gyda chymaint o gwestiynau heb eu hateb.”

Bydd unrhyw arian sy’n weddill yn cael ei ddefnyddio i godi cofeb i’r tri yn lleol.

Hyd yma mae dros £10,000 wedi’i godi i dalu costau’r gwaith chwilio.

Chwilio yn parhau am gwch pysgota oddi ar arfordir y Gogledd

“Rydym yn parhau i chwilio ardal eang i geisio dod o hyd i’r llong hon,” meddai Gwylwyr y Glannau

Dod â’r chwilio am gwch pysgota i ben

“Mae ein meddyliau gyda’r teulu a ffrindiau, a’r gymuned ehangach, ar yr adeg anodd hon.”