Mae disgwyl i fwy nag un miliwn o bobl yng Nghymru fod wedi cael brechlyn coronafeirws erbyn dydd Sadwrn (27 Chwefror), meddai’r prif swyddog meddygol.
Dywedodd Dr Frank Atherton fod dros 902,000 o bobl eisoes wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn Covid-19 tra bod dros 80,000 o bobl wedi cael eu hail ddos – tua 2.7% o oedolion y wlad.
Dywedodd Mr Atherton wrth gynhadledd i’r wasg Llywodraeth Cymru: “Erbyn yfory, rydym yn disgwyl y bydd ein timau brechu rhyfeddol ym mhob un o’n byrddau iechyd wedi gweinyddu dros filiwn o frechlynnau – perfformiad rhyfeddol iawn a charreg filltir allweddol.
“Mae’n llwyddiant mawr sy’n dod â gobaith i ni, ac yn dod â ffordd bosibl allan o’r argyfwng coronafeirws yr ydym wedi’i wynebu dros y flwyddyn ddiwethaf.”
Blaenoriaethu
“Rwyf am bwysleisio mai dyma’r dull symlaf, cyflymaf a thecaf,” meddai Dr Atherton.
“Mae llawer o alwadau wedi bod gan wahanol grwpiau a galwedigaethau penodol i’w blaenoriaethu.
“Edrychodd y JCVI ar hynny, edrychodd yn ofalus iawn ar hynny, a chanfu nad oedd digon o dystiolaeth i gefnogi unrhyw grŵp galwedigaethol penodol.
“Dywedodd hefyd y byddai ychwanegu cymhlethdod drwy fynd i lawr llwybr galwedigaethol yn arafu cyflymder brechu ac roedd yn amlwg iawn bod angen i ni frechu cyn gynted ag y gallwn.”
Dywedodd Dr Atherton y byddai proses sy’n seiliedig ar oedran yn cynnwys y rhan fwyaf o’r bobl yn y proffesiynau addysgu a phlismona beth bynnag.
“Er enghraifft, mae 45% o staff rheng flaen yr heddlu dros 40 oed, mae 60% o bobl mewn addysg a gofal plant dros 40 oed. Felly dyna’r ffordd hawsaf a’r ffordd fwyaf diogel o gyrraedd y poblogaethau hynny.”
Ysbytai
Dywedodd Dr Andrew Goodall, prif weithredwr GIG Cymru, wrth y gynhadledd yng Nghaerdydd fod nifer y bobl gafodd eu derbyn i ysbytai yng Nghymru sydd â symptomau Covid-19 wedi gostwng o 130 y dydd ym mis Ionawr i tua 70 y dydd ar hyn o bryd.
Dywedodd fod tua 1,650 o gleifion covid mewn ysbytai yng Nghymru, gostyngiad o 7% o gymharu â’r un adeg yr wythnos ddiwethaf – dyma’r nifer isaf ers 19 Tachwedd.
Fodd bynnag, mae nifer uwch o gleifion yn yr ysbyty nag ar anterth y don gyntaf ym mis Ebrill 2020. Mae 60 o gleifion covid mewn gwelyau critigol yng Nghymru.
“Mae angen i mi bwysleisio bod ein niferoedd cyffredinol mewn ysbytai yn parhau’n uchel,” meddai Dr Goodall.
“Mae hyn yn ddifrifol ac yn effeithio ar allu’r GIG i ymgymryd â gweithgareddau eraill. Ni fyddai’n cymryd llawer i weld y niferoedd hyn yn codi’n gyflym iawn os bydd y feirws unwaith eto’n lledaenu drwy ein cymunedau.
“Mae’r GIG yn parhau i bryderu’n fawr y gallai’r cynnydd da rydym yn ei weld nawr gael ei wrthdroi os nad ydym yn cadw’r cydbwysedd cywir rhwng pwysau ar y GIG a rhyddhau cyfyngiadau’n raddol.”