Mae Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dweud bod “pethau’n gwella” o ran y pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yn sgil pandemig y coronafeirws.

Dywedodd Dr Andrew Goodall wrth gynhadledd y Wasg heddiw fod cyfartaledd achosion bellach wedi gostwng i 75 ymhob 100,000 o bobol yng Nghymru, tra bod meddygon teulu wedi gweld gostyngiad o 70% yn nifer yr ymgynghoriadau sy’n ymwneud â Covid-19 ers dechrau mis Ionawr.

Ac er bod nifer y galwadau ambiwlans sy’n ymwneud â’r feirws wedi mwy na haneru, dywedodd fod un ymhob 10 galwad i’r gwasanaeth ambiwlans yn dal i ymwneud â Covid-19.

Aeth ymlaen i ddweud bod nifer y cleifion sy’n cael eu cludo i’r ysbyty yng Nghymru gyda symptomau Covid-19 wedi gostwng o gyfartaledd o 130 pob dydd ym mis Ionawr i 70 y dydd erbyn heddiw (dydd Gwener, Chwefror 26).

“Mae yna 1,650 o gleifion mewn ysbytai gyda symptomau Covid-19, sydd 7% yn is na’r wythnos ddiwethaf, a thua 1,200 yn llai na’r uchafbwynt ym mis Ionawr,” meddai.

Ychwanegodd fod 60 o gleifion mewn adrannau gofal dwys gyda Covid-19.

Niferoedd cyffredinol yn yr ysbyty dal yn “rhy uchel”

Rhybuddiodd Dr Andrew Goodall fod niferoedd y cleifion sydd mewn ysbytai gyda symptomau Covid-19 dal i fod yn “rhy uchel”, ac yn uwch na’r niferoedd yn ystod y don gyntaf oedd ar ei anterth ym mis Ebrill 2020.

“Mae’n rhaid i mi bwysleisio bod ein niferoedd cyffredinol yn yr ysbyty yn dal i fod yn uchel,” meddai.

“Mae’n parhau i fod yn sefyllfa ddifrifol ac mae’n dal i effeithio ar allu’r Gwasanaeth Iechyd i ymgymryd â gweithgareddau eraill.

“Ni fyddai’n cymryd llawer i weld y niferoedd hyn yn codi’n gyflym eto pe bai’r feirws yn lledaenu trwy ein cymunedau.”

Bron i filiwn o Gymry wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn

Dywedodd Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, bod dros 902,000 o bobol bellach wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn.

Ychwanegodd bod dros 80,000 o bobl wedi derbyn y ddau ddos, sy’n cyfateb i 2.7% o oedolion y wlad.

Dyma’r gyfran uchaf o bedair gwlad y Deyrnas Unedig, meddai Dr Frank Atherton.

“Erbyn yfory bydd ein timau brechu anhygoel wedi darparu dros filiwn o frechlynnau – sy’n berfformiad gwirioneddol wych ac yn rhywbeth sy’n rhoi gobaith i ni am lwybr allan o’r argyfwng hwn,” meddai.

Strategaeth frechu newydd

Ychwanegodd Dr Frank Atherton bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi strategaeth frechu newydd heddiw (dydd Gwener, Chwefror 26).

Daw hyn ar ôl i’r JCVI, y cydbwyllgor annibynnol ar frechu ac imiwneiddio, gyhoeddi cyngor pellach gan argymell parhau â dull sy’n seiliedig ar oedran ar gyfer blaenoriaethu.

“Dw i, ynghyd â thri Phrif Swyddog Meddygol arall y Deyrnas Unedig, yn cefnogi cyngor JCVI ac mae pedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cytuno i weithredu ar sail y cyngor hwn,” meddai Dr Frank Atherton.

“Mae hyn yn cadarnhau ein bwriad i ddilyn cyngor y JCVI a pharhau gyda chyflymdra gwych y rhaglen.

“Mae brechu yn ddiogel, effeithiol ac allweddol i lacio’r cyfnod clo a chael dyfodol mwy gobeithiol, ac rydan ni’n annog pawb i dderbyn y cynnig i gael eu brechu pan fyddan nhw’n ei dderbyn.”

Pwysleisiodd ei bod hi’n hanfodol bod pobol yn parhau i ddilyn y rheolau sydd mewn grym, hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael eu brechu.