Gan nad yw cefnogwyr yn gallu mynychu gemau’r Chwe Gwlad eleni, mae rhaglen deledu Jonathan ar S4C wedi creu’r Haka Gymreig, ac yn apelio ar wylwyr i berfformio’r ddawns eu hunain i ddangos eu cefnogaeth i dîm rygbi Cymru.

Mae’r fersiwn Gymreig o’r ddawns rhyfel maori wedi ei hysbrydoli gan rai o sêr rygbi amlycaf Cymru gan gynnwys Gareth Edwards, Shane Williams ac Alun Wyn Jones.

Fe gafodd yr Haka Gymreig ei chreu gan y dawnsiwr a’r actor Geraint Rhys Edwards, ar gyfer sgets gomedi ar raglen Jonathan ble mae’n actio rôl yr ymgynghorydd Cysylltiadau Cyhoeddus, ‘Phil Reynolds’ – neu ‘PR PR’.

Cafodd y ddawns ei gweld am y tro cyntaf ar raglen Jonathan neithiwr, sef nos Iau, Chwefror 25, lle’r oedd Shane Williams ei hun, a chyflwynwyr y rhaglen, Jonathan Davies, Nigel Owens a Sarra Elgan, yn rhoi cynnig arni.

Ac mae criw Jonathan yn gwadd y gwylwyr i ffilmio eu hunain yn rhoi tro ar yr Haka Gymreig, ac anfon y canlyniadau draw i’w dangos ar y rhaglen.

Mae Cymru yn ail yn y Chwe Gwlad ar hyn o bryd y tu ôl i Ffrainc, ac ar ôl curo Iwerddon a’r Alban gallai Cymru ennill y Goron Driphlyg pe bai nhw’n trechu Lloegr brynhawn Sadwrn.

Cymru v Lloegr ar S4C brynhawn dydd Sadwrn gyda’r gic gyntaf am 4.45.

Jonathan Davies a George North yn dychwelyd i wynebu Lloegr

Mae Wayne Pivac, Prif Hyfforddwr Cymru, wedi enwi’i dîm i wynebu Lloegr yn Stadiwm Principality brynhawn Sadwrn